Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Mae ein Cyd-Gyfarwyddwr Gweithredol, Leanne Wood, yn tynnu sylw at bwyntiau trafod hollbwysig ynghylch perchnogaeth gymunedol ac adeiladu cyfoeth cymunedol, yn seiliedig ar drafodaeth banel yng nghynhadledd ddiweddar Cwmpas, 'Cymunedau'n Creu Cartrefi'.
Yn sgîl ymrwymiad cynnar Llywodraeth Cymru newydd i ddeddfu i greu cynllun Hawl Gymunedol i Brynu, mae’r drafodaeth genedlaethol eisioes wedi dechrau ar sut y dylid ei lunio.
Pam mae perchnogaeth tir, adeiladau, ynni, cartrefi, asedau a gwasanaethau lleol yn bwysig i gymunedau sydd am lunio eu dyfodol eu hunain? Pa amodau sy’n helpu perchnogaeth gymunedol i lwyddo, a beth sy’n tueddu i’w hatal?
Dyma rai o’r cwestiynau a archwiliwyd gan Leanne Wood, cyd-gyfarwyddwr gweithredol Community Energy Wales, mewn trafodaeth banel ddiweddar yng nghynhadledd Cwmpas ar 'Gymunedau sy’n Creu Cartrefi' yn Nheml Heddwch Caerdydd, ynghyd â Natalie Sargent o’r Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo
a Chris Blake o c=gwmni buddiant cymunedol Green Valleys CIC, dan arweiniad Dr Dan Roberts o Cwmpas.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar berchnogaeth gymunedol ac adeiladu cyfoeth cymunedol a’i rôl wrth bweru lleoedd, gan archwilio:
Ysgogodd y cwestiynau drafodaeth eang ar y potensial ar gyfer dull adeiladu cyfoeth cymunedol, a dysgu o’r hyn sydd eisoes wedi’i wneud mewn cymunedau fel Blaenau Ffestiniog gyda Chwmni Bro Ffestiniog – casgliad o bymtheg o fentrau cymdeithasol rhwydweithiol sydd wedi ehangu ledled Gwynedd i ffurfio Cymunedoli; a Preston – lle mae dull adeiladu cyfoeth cymunedol drwy gaffael cyhoeddus wedi lleihau’r gyfradd ddiweithdra yno 4%.
Bu trafodaeth hefyd ar allu cymunedau i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n dod gyda chreu economi gylchol ac ostwng neu ddileu natur “echdynol” ein heconomi.
Mae ymrwymiad y llywodraeth newydd i ddeddfu ar gyfer “Hawl Gymunedol i Brynu” yn cynnig cyfle i ddysgu o’r modd y gwnaed hyn yn Lloegr a’r Alban, ac i’w wneud yn well yma. Gall y gofyniad i gofrestru asedau a thir cyn y gellir eu prynu godi heriau cyfreithiol ac ymarferol i gymunedau.
A oes ffordd wahanol, well y gellid datblygu deddfwriaeth yng Nghymru, gan alluogi cymunedau i gael yr hawl i brynu unrhyw ased sydd â defnydd neu fudd posibl i’r gymuned honno?
Os bydd Cymru’n cael hyn yn iawn, mae potensial gwirioneddol i gynyddu’n sylweddol nifer ac ansawdd yr asedau mewn perchnogaeth gymunedol, gan ddarparu mwy o gynaliadwyedd, gwydnwch, diogelwch ac incwm i gymunedau, lleihau dibyniaeth ar y pwrs cyhoeddus a chynyddu asiantaeth pobl, eu cyfranogiad a’u hymdeimlad o berthyn i’w cymuned.
Pam na fyddem eisiau gwneud hyn?