Ein gwaith
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn sefydliad nid-er-elw sy'n darparu cefnogaeth a llais i fudiadau cymunedol sy'n gweithio ar brosiectau ynni cymunedol yng Nghymru. Rydym eisiau helpu i greu amgylchedd yng Nghymru lle mae prosiectau ynni cymunedol yn gallu llewyrchu, a chymunedau'n cael eu dyrchafu.
Ein gweledigaeth: dylai pobl fod wrth galon y system ynni.
Ein cenhedaeth: I gefnogi a phrysuro'r newid tuag at system ynni deg, carbon isel, sydd wedi'i harwain gan y gymuned.
Mae datblygu prosiectau ynni cymunedol yn gallu creu budd i gymunedau – ond fel mae nifer cynyddol o sefydliadau cymunedol yn ei ddarganfod, gall y daith o syniad cychwynnol i roi prosiect ar waith fod yn hir a rhwystredig.
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn cefnogi grwpiau sy’n datblygu prosiectau trwy:
- Fforwm Datblygu – fforwm chwarterol ar-lein lle mae grwpiau ynni cymunedol yn gallu rhannu profiadau a lle gall grwpiau newydd ddysgu o ddoethineb hen lawiau.
- Casglu tystiolaeth am y rhwystrau sy’n arafu cynlluniau neu eu rhwystro rhag symud ymlaen – fel diffyg mynediad at y math cywir o gyllid ar yr adeg gywir, rheoliadau, materion cynllunio a thrwyddedu neu gysylltedd â’r grid.
- Ymgyrchu ar ran y sector a dylanwadu ar lunio polisi ynni yng Nghymru er mwyn helpu i gyrraedd targedau clir o ran ynni cymunedol. Os ydych chi'n fudiad neu'n sefydliad sy'n cefnogi'r amcanion hyn, mae'n bosib i chi ymuno â ni yma.
- Os ydych yn unigolyn sy’n dymuno cefnogi ynni cymunedol yn weithredol, gallwch ymuno â’n rhwydwaith RhanNi.