Cyd-berchnogaeth

Sut fedrith cymunedau weithio gyda datblygwyr i wneud prosiectau gwell gyda'n gilydd.

Gwneud Prosiectau Gwell Gyda'n Gilydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliad i bob prosiect ynni newydd yng Nghymru fod ag o leiaf elfen o berchnogaeth leol o 2020. Mae’r datganiad polisi hwn yn atgyfnerthu’r angen i ddatblygwyr weithio gyda’r cymunedau sy’n cynnal eu prosiectau ynni i sicrhau eu bod yn cadw y budd yng Nghymru.

Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys templed ar gyfer adroddiad buddion cydweithio. Gallwch eu darllen yma.

Ein Cynnig i Ddatblygwyr

Rydym yn cynnig gwasanaeth i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy i’w galluogi i gyflawni prosiect lle rennir y perchnogaeth a gweithio gyda nhw ar ymgysylltu a chynnwys y gymuned leol yng nghyffiniau’r cynllun.

  • Nodi a chreu cerbyd cymunedol addas i alluogi cydberchnogaeth ar y prosiect.
  • Ffurfioli’r berthynas rhwng y datblygwr a’r endid cymunedol yn gyfreithiol.
  • Ymgysylltu â’r gymuned i ddatblygu diddordeb a chefnogaeth ar gyfer yr elfen o’r prosiect sy’n eiddo i’r gymuned.
  • Cefnogi’r cerbyd cymunedol i godi’r cyllid ar gyfer eu cyfran o’r prosiect.

Os ydych chi’n ddatblygwr sy’n edrych i gymryd rhan mewn prosiect cyd-berchnogaeth, cysylltwch â ni.

Ein Haddewid i Gymunedau

Byddwn yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau eu bod yn derbyn y gwerth mwyaf posib o brosiect cyd-berchnogaeth. Rydym yn addo:

  • Cael y fargen orau i’r gymuned
  • Cynnwys rhanddeilwyr lleol yn y broses
  • Rhoi cymorth i gymunedau i sefydlu cyrff i gadw perchnogaeth
  • Codi yr arian angenrheidiol ar gyfer prosiectau mawr

Os ydych chi’n gymuned sy’n edrych i gymryd rhan mewn prosiect cyd-berchnogaeth, cysylltwch â ni.

Ein Gwerth

Mae’r sector Ynni Cymunedol mewn sefyllfa dda i weithio mewn partneriaeth â datblygwyr i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni’r disgwyliad yma, ac ar ben hynny ddatblygu cysylltiadau cryfach â’r gymuned lle mae’r prosiect yn digwydd.

Rydym yn cyflawni - Mae ein sector wedi darparu dros 30MW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Gallwn godi cyllid - Rydym wedi codi Degoedd o filiynau ar gyfer y datblygiadau hyn, ac y mae cyfran sylweddol ohonynt wedi dod trwy gynigion a bondiau cyfranddaliadau cymunedol.

Rydyn ni’n cefnogi ein cymunedau - Defnyddir yr holl elw rydyn ni’n ei greu o’n cynlluniau i gefnogi mentrau cymunedol Cymru lleol a helpu i ddatblygu mwy o gyfleoedd yn y gymuned.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn ymhellach. Rydym am sicrhau y bydd y cyfle hwn yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf i gymunedau yng Nghymru a sicrhau y gallwn wneud y broses mor syml ac effeithiol i ddatblygwyr.

Cysylltwch â ni

I drafod gweithio gydag Ynni Cymunedol Cymru ar eich prosiect, cysylltwch â ni.

Ffôn: 02920 190260
E-bost: info@communityenergywales.org.uk

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.