Rhwydwaith Addysg Ynni

Gweithio gyda’n gilydd i dyfu’r sector ynni cymunedol yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae Ynni Cymunedol Cymru yn rhan o Rwydwaith Addysg Ynni sy’n cynnwys gwledydd y Deyrnas Gyfunol, ei nod yw i yrru prosiectau ynni cymunedol eu blaenau – gan roi cymorth i ragor o fudiadau lansio neu dyfu prosicetau sy’n datgraboneiddio’r grid, a chreu buddion i bobl leol.

Mae’r Rhwydwaith Addysg Ynni yn gywaith rhwng Ynni Cymunedol Cymru, Community Energy England, Community Energy Scotland, Action Renewables, Ashden Climate Solutions a’r Centre for Sustainable Energy. Mae’r rhwydwaith yn fenter newydd wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, yn darparu pedwar mlynedd o gyllid gwerth £1.5 miliwn i gyd.

Mae’r sector ynni cymunedol yn barod yn darparu ystod eang o wasanaethau sy’n mynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd a thlodi tanwydd, o osodiadau solar dan berchnogaeth leol sy’n darparu arbedion ynni i sefydliadau ac unigolion, i wasanaethau ôl-osod a chyngor ynni ymddiriedig i gymunedau ym mhob rhan o’r Deyrnas Gyfunol.

Bydd y Rhwydwaith Addysg Ynni yn darparu mewnwelediadau, adnoddau a chysylltiadau am ddim i grwpiau ynni cymunedol presennol a grwpiau cymunedol sydd eisiau bod yn rhan o brosiectau ynni lleol am y tro cyntaf.

Bydd y rhwydwaith yn adnabod pa gefnogaeth ac adnoddau ychwanegol sydd ei angen o fewn y sector ynni cymunedol, ac yn darparu adnoddau newydd i ddiwallu’r anghenion hyn, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer mentora gan fudiadau cymunedol eraill. Bydd y rhwydwaith hefyd yn hwyluso cyfleoedd addysgu rhwng sefydliadau cymunedol i ddatblygu sgiliau ymhellach a thyfu’r sector.

Dywedodd Leanne Wood, Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol Ynni Cymunedol Cymru:

‘Bydd y Rhwydwaith Addysg Ynni newydd yn darparu cefnogaeth addysgu ac adnoddau i gryfhau a thyfu grwpiau newydd a sefydliedig. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid eraill yn y Deyrnas Gyfunol i ehangu’r sector ynni cymunedol. Rydym eisia mwy o bobl i fod yn ymwybodol o’r rheolaeth fedrwn nhw eu hennill dros adnoddau ynni lleol. Gall bobl chwarae rhan canolog yn eu systemau ynni lleol a’u heconomi, a bydd y rhwydwaith hon yn helpu pobl i ddeall sut fedrwn nhw fynd ati i wneud hynny.’

I ddarganfod rhagor am y prosicet hyn a gweithgarwch Ynni Cymunedol Cymru, e-bostiwch lydia@ynnicymunedol.cymru

Mae’r grant hwn yn dod o’r Climate Action Fund, ymrwymiad o £100 miliwn dros 10 mlynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol i gefnogi cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chynnwys rhagor o bobl mewn gweithredu hinsawdd. Mae’n ffurfio rhan o un o bedwar nod allweddol yr ariannwr yn eu strategaeth 2030, ‘mae’n dechrau gyda chymuned’ – cefnogi cymunedau i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.