Richard Clay

Mae Richard yn economegydd drwy ei hyfforddiant ac wedi gweithio yn y maes datblygu a gweithredu polisi ynni am dros 20 mlynedd, yn cynnwys treulio mwy na degawd gyda'r rheoleiddiwr ynni Ofgem lle gweithiodd mewn amrywiaeth o swyddi ym marchnadoedd trydan a nwy. Roedd hyn yn cynnwys rheoli cynlluniau cefnogaeth cyllid allweddol yn y 2000au, y cyfnod pan ddaeth ynghlwm â'r sector ynni gyntaf. Mae bellach yn arwain ar bolisi ynni a rheoleiddio ar gyfer Stad y Goron, gan gefnogi datblygiad gwynt y môr a thechnolegau morol newydd eraill yn y DU, yn cynnwys arfordir Cymru. Penodwyd Richard i fwrdd YCC yn 2018 ac mae'n cefnogi gwaith polisi a strategol y cwmni. Mae'n byw yng Nghasnewydd gyda'i deulu.

Meleri Davies

Meleri Davies yw un o sylfaenwyr Ynni Ogwen a mae’n parhau i fod yn gyfarwyddwr gweithgar ar fwrdd Ynni Ogwen. Yn ei swydd bob dydd, mae’n Brif Swyddog Partneriaeth Ogwen, menter gymdeithasol sy’n datblygu prosiectau economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymunedol yn Nyffryn Ogwen. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys sefydlu Siop Ogwen, trosglwyddo asedau megis Llyfrgell Bethesda, datblygu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen, ac yn fwy diweddar, prosiect Dyffryn Gwyrdd a phrosiectau cludiant cymunedol a thwristiaeth gynaladwy. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd llywio Cyd Ynni a bwrdd mudiad GwyrddNi i ddatblygu cynulliadau cymunedol ar yr hinsawdd mewn 6 ardal o Wynedd.

Mae cynaladwyedd yn linyn arian trwy ei gwaith ac enillodd Meleri ddwy wobr - Gwobr Pencampwr Cynaliadwyedd Cynnal Cymru a Gwobr Arloeswr Ynni Gwyrdd yng Ngwobrau Regen UK yn 2019. Mewn cyfnod byr, mae Partneriaeth Ogwen wedi tyfu i fod yn fenter gymdeithasol arloesol gyda’r economi sylfaenol, atgyfnerthu cymunedol a datblygu cynaliadwy yn greiddiol i bopeth mae’n gwneud. Mae Meleri hefyd yn Gyfarwyddwr gwirfoddol gyda Siop Ogwen ac yn gyn gyfarwyddwr gyda Cwmni Tabernacl Bethesda Cyf sy’n berchen ar Neuadd Ogwen a’r Fic ym Methesda. Mae’n angerddol dros yr iaith a’r diwylliant, yn arbennig felly yng nghyd-destun mentergarwch gymunedol mewn cymunedau Cymraeg.

Dan McCallum

Mae Dan yn un o sefydlwyr Awel Aman Tawe ac yn gyfrifol am waith beunyddiol y mudiad. Mae ganddo radd mewn hanes modern o Brifysgol Rhydychen. Mae ei brofiad gwaith yn cynnwys dwy flynedd o ddysgu yn Sudan, pedair blynedd yn gyfarwyddwr Cynllun Ysgoloriaeth Ffoaduriaid Eritreaidd – cynllun a sefydlodd fel elusen gofrestredig, dwy flynedd yn Gydlynydd Cynllun i Oxfam yn gweithio yn y rhan o Gwrdistan sydd yn Irac a dwy flynedd fel Rheolwr i’r Grŵp Hawliau Lleiafrifoedd yn Affrica a’r Dwyrain Canol. Gweithiodd i Fenter Dyffryn Aman am ddwy flynedd yn rheoli Fforestwr, prosiect coetiroedd cynaladwy.

Yn 2007 bu i Dan gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Ernst yng nghategori Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn. Ef hefyd yw’r esiampl mentergarwch ar brosiect Dynamo Llywodraeth Cymru lle mae’n rhoi cyflwyniadau rheolaidd mewn ysgolion a chynadleddau Addysg Bellach. Mae swydd Dan wedi ei ariannu gan gynllun Ynni’r Fro Llywodraeth Cymru – cynllun sy’n defnyddio Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd i gynnig benthyciadau a chymorth grant i fentrau cymdeithasol ynghyd â chyngor annibynnol, rhad ac am ddim fel modd o sefydlu mentrau ynni adnewyddol, cymunedol ar draws Cymru. Fel rhan o’i swydd mae’n cynghori grwpiau cymunedol eraill yn ne Cymru ar brosiectau dŵr a thrydan.

Gareth Cemlyn Jones

Ganwyd Gareth yn Ynys Môn, ac ar ôl graddio cafodd yrfa yn y diwydiant cynhyrchu trydan, yn bennaf ar osodiadau hydro. Gweithiodd ar adeiladu ar y safle, rheoli prosiect ynghyd â bod yn gyfarwyddwr technegol a chyfarwyddwr prosiect ar brosiectau rhyngwladol, yn cynnwys gweithio dramor. Mae’n Beiriannydd Siartredig, ac yn Gymrawd o Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol. Bellach wedi hanner-ymddeol mae’n gadeirydd ar Ynni Ogwen, cynllun hydro ym Methesda.

Gareth Clubb

Mae Gareth wedi gweithio yn y sector cynaliadwyedd yng Nghymru am bron ugain mlynedd, ac wedi bod yn eiriolwr dros ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig ynni cymunedol. Mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr i Gymdeithas Eryri a Chyfeillion y Ddaear, ynghyd â fel Prif Weithredwr i Blaid Cymru. Bellach mae Gareth yn Gyfarwyddwr ar WWF Cymru.

Emily Hinshelwood

Mae Emily yn anthropolegydd cymdeithasol, rheolwr prosiect ac ymarferydd creadigol. Mae hi’n gyd-sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Creadigol ar Awel Aman Tawe (AAT), sydd wedi bod yn arloeswr ym maes Ynni Cymunedol. Mae hi wedi ysgrifennu a dylunio holl gyhoeddiadau AAT gan gynnwys Pecyn Cymorth Ymgynghori ar Ffermydd Gwynt a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2002, holl Ddogfennau Cynnig Cyfranddaliadau Awel ac Egni Coop, a nifer o bapurau academaidd ynghylch ynni cymunedol.

Sefydlodd raglen celfyddydau ac newid hinsawdd AAT yn 2010 ac ar hyn o bryd mae’n rheoli prosiect Hwb y Gors – ailddatblygiad o gyn-ysgol gynradd Cwmgors yn ganolfan gymunedol carbon isel ar gyfer y celfyddydau, addysg ac entrepreneuriaeth.

Mae angerdd Emily yn ymwneud ag ysbrydoli pobl i ymgymryd â newid hinsawdd, ac mae hi wedi arwain nifer o brosiectau yn y maes hwnnw. Ymhlith ei ffefrynnau mae: calendr Ynni Adnewyddadwy Noeth AAT yn 2007; prosiect yn 2019 a oedd yn cynnwys dros 700 o bobl yn adeiladu capsiwl at y lleuad tra'r oedd yn artist preswyl am bythefnos ar lawr uchaf Canolfan Gelfyddydau Pontardawe; a’i thaith gerdded ar draws Cymru (2012) lle gofynnodd i unrhyw berson roedd hi'n cwrdd â nhw ‘3 chwestiwn am newid hinsawdd’ gan greu cerddi gair-am-air o’u hatebion a gyflwynodd yng Nghynulliad Cymru ac mewn cynadleddau hinsawdd eraill yn y DU ac Ewrop.

Fe’i dewiswyd yn un o Ysgogwyr Newid Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2023.

Oriel Price

Mae Oriel yn rheolwr prosiect dwyieithog sydd wedi datblygu a gweithredu prosiectau strategol manwl. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel newyddiadurwr gwleidyddol yn BBC Cymru, mae hi wedi gweithio i Lywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gyda ffocws penodol ar ddatblygu cynaliadwy ac ynni, mae hi wedi arwain rhaglenni amlddisgyblaethol yn y DU ac yn Rhyngwladol. Fel daearegwr amgylcheddol, gyda diddordeb parhaus mewn gwneud penderfyniadau cynaliadwy a busnes sy’n gymdeithasol gyfrifol, mae hi’n dod ag arbenigedd penodol i’r sectorau datblygu cynaliadwy, seilwaith ar raddfa fawr, ynni ac adfywio. Yn cynnwys rhaglenni newid ymddygiad. Ymuno â Tidal Lagoon Power Ltd yn 2013, yn gyfrifol am ddarparu a rheoli strategaethau materion cyhoeddus ac ymgysylltu yng Nghymru. Mae ganddi ddealltwriaeth fanwl o sut mae llywodraeth genedlaethol a lleol yn gweithio yng Nghymru, y DU ac ar Lefel Ewropeaidd. Yn fwy diweddar mae hi wedi gweithio’n weithredol fel Uwch Swyddog Ynni UKAEE a thuag at weithredu safon System Rheoli Amgylcheddol ISO 14001 (EMS). Mae Oriel yn croesawu’n gynnes y cyfle i gyfrannu’n rhagweithiol at ddyfodol ynni cymunedol ar yr adeg drawsnewidiol hon.

Cyrene Dominguez

Mae Cyrene wedi bod yn gweithio yn y sector ynni cymunedol ers deng mlynedd, a gyda nifer o flynyddoedd o brofiad mewn pwyntiau gwefru a isadeiledd technegol ar gyfer cynghorau a chymunedau. Ar hyn o bryd mae Cyrene yn gweithio i TrydaNi fel Rheolwr Gweithredu Clybiau Ceir a Pwyntiau Gwefru. Mae ganddi brofiad o ddylunio graffeg a dylunio gwefannau, ynghyd â darlunio digidol a brandio cynnyrch.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.