Ynni Solar Cymunedol Ynni Hydro Clybiau Ceir Cymunedol Ynni Gwynt Cymunedol Biomass Ôl-osod Cartref

Ynni Cymunedol Cymru

Rydym yn cysylltu, ysbrydoli a chefnogi cymunedau i arwain wrth bontio'n deg at gymdeithas ddigarbon.

Ein gwaith...

Mae Ynni Cymunedol Cymru'n cynrychioli ein haelodau; rhwydwaith o fudiadau llawr gwlad sy'n ymghlwm â chynhyrchu ynni, effeithlonrwydd ynni, gwres cymunedol carbon isel, trafnidiaeth gymunedol, a phrosiectau addysg ac ymgysylltu.

  • Rydym yn cefnogi cymunedau i wireddu eu prosiectau.
  • Rydym yn cysylltu sefydliadau cymunedol i rannu gwybodaeth ac ymarfer da.
  • Rydym yn ysbrydoli drwy arwain prosiectau arloesol mewn cydweithrediad â'n haelodau fel bod cymunedau eraill yn gallu dysgu ohonom ni.

Beth yw'r buddion?

Mae'r mudiad ynni cymunedol yn ddull arbennig i bobl dod ynghyd i wneud rhywbeth cadarnhaol a chymryd rhan yn yr ymdrech sydd ei hangen i bontio'n gyfiawn at ddyfodol digarbon. Mae aelodau Ynni Cymunedol Cymru'n torri biliau, hybu economïau lleol, adeiladu cymunedau gwydn, cefnogi'r defnydd o'r iaith Gymraeg, ac yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth ynni. Rydym yn casglu pobl at ei gilydd i gynhyrchu a thyfu asedau ynni i Gymru. Mae grwpiau sefydliedig yn darparu cyllid i greu rhagor o asedau cymunedol drwy gefnogi ystod o fentrau lleol er da.

Beth fedrwch chi ei wneud?

Mae nifer o ddulliau fedrwch chi cefnogi ynni cymunedol. Os ydych chi'n unigolyn, fedrwch chi ymuno â RhanNi, ein mudiad o Ysgogwyr Ynni Cymunedol. Os ydych chi'n sefydliad ynni cymunedol, gallwch chi ddod yn aelod o Ynni Cymunedol Cymru a chael mynediad at ystod eang o wasanaethau. Neu os ydych chi eisiau dechrau prosiect ynni cymunedol yn eich ardal, ewch at ein canllaw dechrau prosiect.

Pam dod yn aelod?

Dewch yn aelod o Ynni Cymunedol Cymru i gael mynediad at ystod o wasanaethau a chefnogaeth i'ch sefydliad.

Tudalen Gyhoeddus ar ein gwefan

Gostyngiad ar gyfer digwyddiadau

Mynediad at arbenigwyr

Mynediad at adnoddau

Hawl i bleidleisio yng nghyfarfod cyffredinol YCC

Mynediad at y wybodaeth a'r newyddion diweddaraf

Creu Cyfrif

RhanNi

Mae RhanNi yn fudiad sy'n tyfu ar gyfer pobl sydd eisiau cefnogi Ynni Cymunedol yng Nghymru.

Adnoddau

Gallwch weld adnoddau Ynni Cymunedol Cymru yma.

Cyd-berchnogaeth

Sut fedrith cymunedau weithio gyda datblygwyr i wneud prosiectau gwell gyda'n gilydd.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.