Beth yw RhanNi?
Rydym am weld system ynni sydd wedi’i harwain gan y gymuned, sy’n darparu budd cymunedol, sy’n lân, yn deg a chyda phobl wrth ei chraidd.
Drwy ymuno â RhanNi, byddwch chi’n rhan o lais torfol sy’n mynnu gweld y newid hwn.
Mae RhanNi yn fudiad sy'n tyfu ar gyfer pobl sydd eisiau cefnogi Ynni Cymunedol yng Nghymru.
Rydym am weld system ynni sydd wedi’i harwain gan y gymuned, sy’n darparu budd cymunedol, sy’n lân, yn deg a chyda phobl wrth ei chraidd.
Drwy ymuno â RhanNi, byddwch chi’n rhan o lais torfol sy’n mynnu gweld y newid hwn.
Ein mudiad o gefnogwyr ynni cymunedol.
Byddwch yn cael diweddariadau ar sut fedrwch chi weithredu i gefnogi twf ynni cymunedol, nid-er-elw.
Gallwch gymryd rhan mewn prosiectau ynni cymunedol lleol a helpu siapio eu dyfodol.
Byddwch yn derbyn gwybodaeth am weithgorau amrywiol Ynni Cymunedol Cymru a chymryd rhan ynddynt.
Bydd RhanNi yn eich diweddaru gyda’r cyfleoedd diweddaraf i fuddsoddi mewn prosiectau ynni cymunedol – gan roi arian yn ôl am eich buddsoddiad a’r cyfle i gefnogi’n uniongyrchol gymunedau sy’n arloesi yng Nghymru.
Rydym yn fudiad o bobl sydd yn cydweithio i wireddu potensial a chryfhau ein cymunedau, mynd i’r afael â newid hinsawdd a chreu system ynni decach.