Ben Ferguson

Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol

Mae gan Ben Ferguson dros ddegawd o brofiad ym maes ynni cymunedol, ac wedi bod yn gyfarwyddwr ar, ynghyd â sefydlu prosiect Ynni Sir Gâr – a gosod y tyrbin cymunedol cyntaf o dan berchnogaeth gymunedol yn y sir – a Ynni Cymunedol Sir Benfro. Gyda gwybodaeth dechnegol ddofn am newid hinsawdd, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy ar bob raddfa, mae Ben wedi gweithio ac ystod o rhanddeilwyr – o sefydliadau cymunedol i gyrff statudol, busnesau lleol a datblygwyr rhyngwladol.

Leanne Wood

Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol

Leanne Wood oedd arweinydd Plaid Cymru o 2012-2018, a’r fenyw gyntaf i gynrhychioli’r Rhondda yn y Senedd, lle’r oedd ganddi gyfrifoldeb dros bolisïau Cynaliadwyedd, Amgylchedd, Cyfiawnder Cymdeithasol a Thai y blaid. Yn ymgyrchydd dros yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol ers dros 25 mlynedd.

Dyfan Lewis

Swyddog Hyrwyddo a Marchnata

Ymunodd Dyfan Lewis â thîm Ynni Cymunedol Cymru ym mis Gorffennaf 2020, ac mae wedi’i leoli yn Nghaerdydd, y ddinas symudodd iddo er mwyn astudio Cymraeg yn y brifysgol. Cyn cymryd y swydd hon, roedd ganddo gefndir mewn cyfathrebu, cyfieithu ac ysgrifennu, gan weithio i Canolfan Mileniwm Cymru a sefydlu ei wasg ei hun, Gwasg Pelydr. Mae’r swydd hon wedi tanio ei ddiddordeb mewn datblygu cymunedol ac mae ganddo ddiddordeb mewn rhannu straeon o brosiectau ynni cymunedol ar lawr gwlad.

Gwenno Huws

Swyddog Aelodaeth a Gweinyddu

Ymunodd Gwenno ag Ynni Cymunedol Cymru fel Swyddog Aelodaeth a Gweinyddu yn Rhagfyr 2022. Yn wreiddiol o Gwm Prysor, mae nawr yn byw yng Nghaerdydd ar ôl treulio tair mlynedd yn astudio gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae wedi gweithio i'r Urdd yn flaenorol, ac nawr yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am fuddion ynni cymunedol, yn enwedig y budd i'r iaith Gymraeg.

Jason Shilcock

Swyddog Ymchwil a Pholisi

Ymunodd Jason Shilcock ag Ynni Cymunedol Cymru ar ddechrau 2024. Mae wedi'i leoli yn Y Barri. Dechreuodd diddordeb Jason mewn ynni cymunedol tra'n ysgrifennu ei thesis gradd Meistr ar brosiectau yn y DU, Denmarc a'r Almaen fel rhan o'u MSc mewn Rheolaeth Adnoddau ac Ynni Adnewyddadwy ym Mhrifysgol De Cymru. Ynghyd â'i waith gyda YCC, mae hefyd yn brawf ddarllenydd ac yn gyfieithwr, gwirfaddolwr yn Benthyg Barri (Llyfrgell pethau) ac yn rhedeg PeoplePlanetPint y Barri.

Lydia Godden

Cydlynydd Rhwydwaith Ynni

Ymunodd Lydia Godden ag Ynni Cymunedol Cymru fel Cydlynydd Rhwydwaith Ynni yn 2024. Cyn hyn, roedd hi'n Swyddog Polisi ac Ymchwil yn y Sefydliad Materion Cymreig yn canolbwyntio ar sut fedrith cymunedau Cymru gadw rhagor o fuddion economaidd o brosiectau ynni adnewyddadwy masnachol. Mae hefyd wedi gweithio yn y cwmni cysylltiadau cyhoeddus Cadno Communications ac mae ganddi MA mewn Gwleidyddiaeth a Llywodraeth Cymru o Brifysgol Caerdydd. Mae'n credu yn gryf fod ynni cymunedol yn cyflwyno cyfle unigryw ar lawr gwlad i fynd i'r afael a cyfiawnder hinsawdd a chymdeithasol ac i adfywio cymunedau Cymru.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.