Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Cynhadledd Ynni Cymunedol Cymru
Bob blwyddyn, mae Ynni Cymunedol Cymru yn trefnu cynhadledd sy'n casglu ynghyd ein haelodaeth a chyfranogwyr eraill yn y sector i drafod ein dyfodol, y gwaith arbennig sy'n digwydd heddiw, a'r heriau sydd o'n blaenau.
Mae ynni adnewyddadwy yn tyfu. Mae’r llywydoraeth a diwydiant ill dau yn blaenoriaethu cyrraedd Sero Net erbyn 2035. Nid ydym yn gofyn bellach a ddylwn ni ddad-garboneiddio ein system ynni, ac felly dechrau gofyn sut ydym am wneud. Sut ydyn ni’n cynllunio system ynni sy’n deg, yn rhoi asiantaeth yn nwylo cymunedau, ac ailgychwyn ein heconomïau lleol?
Ymunwch ag Ynni Cymunedol Cymru yn ein cynhadledd flynyddol ar 10 ac 11 o Fehefin yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth, ble byddwn yn edrych y Tu Hwnt i Sero Net i drafod y weledigaeth hirdymor i’n cymunedau yng Nghymru.
Rydyn ni’n brysur yn cwblhau’r manylion, ond bydd ein rhaglen yn cynnwys paneli arbenigol, gweithdai, a defnydd da o’r cyfleusterau yn y ganolfan.
Rydyn ni’n cydnabod bod cost rhedeg eich sefydliad yn heriol. Gyda hyn mewn golwg, rydyn ni wedi rhewi prisiau tocynnau i’r gynhadledd, gan eu cadw’r un pris â llynedd.
Roedd cynhadledd y llynedd yn wych. Pobl dda. Croeso arbennig. Lleoliad ysbrydoledig.Ben Saltmarsh, National Energy Action
Roedd cynhadledd YCC yn wych. Mae'r sector wir wedi gweld eisiau'r cyfleoedd hyn i ddod ynghyd â rhannu ein profiadau. Roedd hi mor braf gweld hen ffrindiau a gwneud rhai newydd hefyd. Llongyfarchiadau i Ynni Cymunedol Cymru am gynnal digwyddiad mor llwyddiannus.Grant Peisley - DEG
(Ar ôl clywed mai tai yn ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru sy’n wynebu’r heriau mwyaf difrifol i wella y stoc dai, ac sydd a rhai o’r lefelau uchaf o dlodi tanwydd)
Daeth y gaeaf o n’unlle
i chwarae’r tŷ fel ffliwt.
A dwi’n caru’r cerrig hyn,
godwyd gan chwarelwyr
a wyddai gost pob carreg.
Ond mae o’n oer, mae
o’n gerddorfa o synau,
mae o’n tynnu tamp
a bwrw gwres, mae’n hen
a chrydcymalog.
A dwisho byw adra, ond
mae’r tai chwarelwyr fesul un
yn troi’n dai haf i bobl
sydd ddim yn gorfod meddwl
am be ’di gaeaf ar y llethrau moel,
be ’di Ionawr rhwng llechi’r to.
Be ’di adra? Tŷ oer a phentre’ gwag.
Grug Muse