Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Sefydlwyd Ynni Cymunedol Cymru gan griw o saith sefydliad a ddaeth ynghyd. Roedd rhain yn cynnwys Awel Aman Tawe, The Green Valleys, Cronfa Bancio Cymunedol Robert Owen, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (CYD) Cymru, Cwm Harry a Severn Wye Energy. Roedden nhw'n rhan o gefnogi sefydlu Adfywio Cymru, rhaglen gymorth i gymunedau i weithredu ar newid hinsawdd, a gyflawnwyd gan CYD Cymru.
Lansiwyd cynnig cyfranddaliadau gan Llangattock Green Valleys. Dyma oedd un o'r cynlluniau cyntaf i gael ei ariannu drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol, gan danio llu o brosiectau eraill wnaeth godi miliynau o bunnoedd mewn cyfranddaliadau cymunedol i ddatblygu ystod o brosiectau ynni o dan berchnogaeth gymunedol.
Mae YCC yn gweithio gyda Chronfa Bancio Cymunedol Robert Owen i ddatblygu'r Gronfa Ynni Cymunedol ar ôl derbyn arian gan Gronfa Fawr y Loteri. Cynllun oedd hwn i ddarparu'r gefnogaeth ariannol angenrheidiol er mwyn symud prosiectau ynni cymunedol ymlaen o ystyried eu dichonadwyedd cychwynnol at eu gosod a'u cwblhau. Arloesodd y cynllun ddull o ddarparu benthyciadau datblygu a gafodd ei fabwysiadu gan Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn hwyrach ymlaen.
Mae YCC yn cyflogi eu gweithiwr cyntaf. Mae Rob Proctor yn cael ei gyflogi fel Rheolwr Datblygu Busnes rhan amser, yn gweithio 3 diwrnod yr wythnos i helpu i dyfu'r sefydliad. Fel canlyniad mae YCC yn agor ei aelodaeth i sefydliadau cymunedol ledled Cymru, gan ddatblygu aelodaeth o dros 50 sefydliad mewn dim o dro.
Mae YCC yn llwyddo i sicrhau arian mewn partneriaeth gydag Ynni Lleol, er mwyn helpu ehangu clwb Ynni Lleol Bethesda i gymunedau eraill yng Nghymru. Gwnaeth YCC ysgogi cefnogaeth gan grwpiau ynni cymunedol ledled Cymru er mwyn helpu gyda datblygiad Clybiau Ynni Lleol yng Nghymru. Law yn llaw â chynhyrchwyr ynni adnewyddadwy lleol a chymunedau, gweithiodd YCC i adnabod y lleoliadau posib ar gyfer clybiau a darparu cyswllt pwysig rhwng CIC Ynni Lleol a chlybiau lleol.
Mae YCC yn sefydlu YnNi Teg i ddatblygu tyrbin gwynt cymunedol 900kW. Adeiladwyd yn 2017 a chodwyd dros £500k drwy gynigion cyfranddaliadau. Yn ogystal â hyn, mae YCC yn partneri gyda RWE (Innogy gynt) i ennill tendr i ddatblygu Fferm Wynt Coedwig Alwen, gan alluogi cyfle ar gyfer cydberchnogaeth o'r prosiect ar gyfer y gymuned.
Mae YCC yn gweithio gyda'u haelodau i bledio'n llwyddiannus ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad cyfraddau busnes ar gyfer cynlluniau hydro cymunedol oedd yn dioddef oherwydd cynydd anferthol mewn cyfraddau busnes. Mae'r gefnogaeth hon wedi parhau ac ar gael o hyd ar gyfer sefydliadau cymunedol gyda cynlluniau hydro, gan sicrhau eu cynaliadwyedd hir dymor. Gwnaeth 2018 hefyd weld aelod newydd o staff yn ymuno â'r tîm. Daeth Beca Roberts yn Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu yn 2018.
YCC yn gosod stondin yn yr Eisteddfod yn Llanrwst ac yn lansio CyfranNi (bellach RhanNi), rhwydwaith o bobl sy'n cefnogi Ynni Cymunedol ac eisiau buddsoddi mewn prosiectau ynni cymunedol. Mae'r lansiad yn yr Eisteddfod yn arwain at 800 o bobl yn tanysgrifio i CyfranNi. Mae CEW hefyd yn creu deiseb yn yr Eisteddfod, oedd yn galw am Eisteddfod ddi-garbon erbyn 2025, a wnaeth dderbyn dros 700 llofnod.
YCC yn sicrhau arian drwy raglen Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i sefydlu YnNi Teg fel datblygwr cymunedol ac helpu prysuro'r datblygiad o brosiectau ynni cymunedol yng Nghymru. Mae YnNi Teg bellach yn datblygu rhaglen o dros 40MW o brosiectau ynni cymunedol ac yn cyflogi 7 aelod o staff.
YCC yn cyflawni'r adroddiad cyntaf unigryw ar Gyflwr y Sector yng Nghymru ac yn sicrhau arian i'w gynhyrchu am y 3 mlynedd nesaf. Gwnaeth yr adroddiad hwn helpu i oleuo Archwiliad Dwfn Llywodraeth Cymru i Ynni Adnewyddadwy gyda nifer o'r argymhellion yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r sector.
Gwelwyd newidiadau mawr yn y flwyddyn hon i YCC yn nhermau'r adnoddau sydd ar gael i'r sefydliad a'r amrywiaeth o waith rydym yn ei gyflawni. Mae cyllid o Lywodraeth a Chronfa'r Loteri wedi galluogi YCC i dyfu, a chyflogi 6 o bobl. Mae hefyd wedi galluogi YCC i ddatblygu eu gwaith y tu allan i ynni adnewyddadwy yn unig i ddatblygu rhwydwaith clwb ceir trydan, sefydlu gweithgor gwres adnewyddadwy a chefnogi gwaith llwyddiannus y gweithgor Effeithlonrwydd Ynni.