Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Yma, mae ein Cyd Gyfarwyddwr Gweithredol, Leanne Wood, yn cyflwyno'r achos dros gymunedau ynni a’r buddion cymdeithasol ac economaidd ddaw o hyn.
Ar Ŵyl y Banc ym mis Awst, siaradais yng Ngŵyl Rhwng y Coed a gynhaliwyd yn Nghoed Tregantllo, ger Merthyr Mawr.
Mae’r coed yn sefyll ger y twyni tywod, sy’n rhedeg ar hyd Afon Ogwr cyn iddo lifo i’r môr. Dwi wedi sylwi ar geirw gwyllt yn y twyni yn y gorffennol. Mae’n fangre mor hardd. Mae bod ymysg y coed ohyd yn dod â chymaint o lonyddwch.
Testun fy araith oedd ynni cymunedol ac adeiladu cyfoeth cymunedol. Esboniais sut y gall ynni cymunedol gynorthwyo pobl i ddod at ei gilydd i adeiladu asedau ar gyfer y gymuned, fel y gall incwm hir dymor gael ei gynhyrchu er mwyn buddsoddi yn y gymuned honno.
Gall yr elw a gynhyrchir o’r asedau hwn mewn cymuned gael ei wario ar flaenoriaethau lleol ar sail dewis democrataidd a gellir ei gylchredu’n lleol a’i luosogi.
Mae fersiwn o adeiladu cyfoeth cymunedol yn cael ei arloesi yn ninas Preston, yn Lloegr. Yno, mae sefydliadau angori mawr megis yr ysbyty, y prifysgolion a’r awdurdodau lleol yn prynu gymaint ac y gallant yn nhermau deunydd a gwasanaethau o gwmnïau sydd wedi’u canoli yn lleol. Maent yn anelu’n arbennig i gontractio gyda menterau cymdeithasol, lle fo hyn yn bosib.
Ar hyn o bryd, mae rheoliadau yn atal hyn, ond rydym ni’n gweithio gyda’n cydweithwyr yn Community Energy Scotland a Community Energy England i ymgyrchu fel y gall busnesau ynni cymunedol werthu yr ynni maent yn gynhyrchu’n lleol i ddefnyddwyr lleol. Byddai hyn yn arbed arian ar filiau i’r cwsmer, byddai’n darparu elw bach i’r busnes ynni cymunedol a bydd yn helpu gyda’r her enfawr o gydbwyso’r grid.
Gall y fath newid ein galluogi i adeiladu cymunedau ynni. Casgliad o bobl lleol yn yr un ardal yw cymuned ynni - cartrefi, busnesau, a sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu, defnyddio, a storio ynni, yn arferol o ffynnonellau adnewyddadawy megis solar, gwynt, hydro, neu storfa batri.
Mae’r Llywodraeth Cymru newydd wedi ymrwymo i ddatblygu cymunedau ynni yn eu maniffesto.
Dywed “byddwn yn….
Blaenoriaethu perchnogaeth gymunedol ystyrlon a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cymunedau ynni – i helpu cymunedau i ddod at ei gilydd i gynhyrchu, defnyddio a chadw cymaint o drydan a gwres ag y gallant yn lleol ac ar y cyd, gan feithrin hunangynhaliaeth ynni a helpu i leihau biliau.
Mae Ynni Cymunedol Cymru yn barod i weithio gyda’r llywodraeth newydd er mwyn gweithredu’r weledigaeth gyffroes hon, fel y gall pob cymuned weld y buddion eang a hir dymor a ddaw gyda bod yn berchen ar asedau ynni.