Ynni a pherchnogaeth cymunedol wrth wraidd blaenoriaethau Llywodraeth newydd Cymru

Published: 20.05.2026 ( 18 days ago )

20fed o Fai 2026

Gosodwyd ynni cymunedol a pherchnogaeth gymunedol wrth wraidd blaenoriaethau newydd Llywodraeth Cymru yr wythnos hon, wrth i'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth amlinellu cyfeiriad newydd o ddatblygiad economaidd a pholisi ynni yn y Senedd.

Yn ei ddatganiad i Senedd Cymru ar 19 Mai, nododd y Prif Weinidog symudiad tuag at "feddylfryd economaidd gwahanol", wedi'i wreiddio mewn budd lleol, gwerth cyhoeddus a grymuso cymunedau. Cyhoeddodd "bortffolio economaidd newydd yn canolbwyntio ar fenter, ynni a chysylltedd, gyda'r gymuned bob amser wrth ei chraidd."

Roedd y pwyslais hwnnw'n glir yn ei sylwadau ar bolisi ynni, lle dadleuodd na ddylid trin cymunedau mwyach fel derbynwyr goddefol penderfyniadau seilwaith, ond fel cyfranogwyr a pherchnogion gweithredol.

“Yn rhy aml, mae’r effaith - negyddol, o ran yr angen i liniaru, a chadarnhaol, o ran perchnogaeth gymunedol ac yn y blaen - a all ddeillio o brosiectau ynni wedi bod ar goll o’r ystyriaethau,” meddai. “Bydd hynny’n egwyddor graidd a fydd yn ein tywys ni fel Llywodraeth.”

Pwysleisiodd y Prif Weinidog hefyd y gallai perchnogaeth gymunedol a budd lleol drawsnewid agweddau’r cyhoedd tuag at ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a seilwaith grid.

“Gall agweddau newid o fewn cymunedau pan fydd pobl yn deall pa fuddion all ddeillio ohonynt,” meddai. “Gallai fod yn ynni rhatach, gallai fod yn berchnogaeth, gallai fod yn llu o faterion.”

Yn benodol, mae hwn yn arwydd o symudiad i ffwrdd o fodel echdynnol o ddatblygiad economaidd tuag at un sy'n seiliedig ar bartneriaeth, cyfranogiad a ffyniant a rennir. Drwy “roi'r gymuned wrth wraidd penderfyniadau”, mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod yn rhaid i'r trawsnewid i ynni glân hefyd ddarparu buddion democrataidd ac economaidd i bobl leol.

Ochr yn ochr ag ymrwymiad i ddatganoli Ystâd y Goron, mae'r datganiad yn awgrymu y gallai ynni cymunedol ddod yn nodwedd ddiffiniol o weledigaeth economaidd y Llywodraeth newydd hon - un lle mae cyfoeth, perchnogaeth a chyfle yn cael eu cadw'n agosach at adref.

Mae'r sector ynni cymunedol yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a diwydiant i wireddu hyn. Os yw cymunedau i fod wrth wraidd penderfyniadau, rhaid iddynt fod wrth wraidd datblygiadau hefyd. Heb rôl i gymunedau ynni, mae'n anodd gweld sut y gall Cymru gyflawni'n llawn yr uchelgeisiau economaidd a datgarboneiddio y mae'r Prif Weinidog wedi'u amlinellu.

Darllenwch y datganiad llawn ar flaenoriaethau’r Prif Weinidog fan hyn: Cyfarfod Llawn 19/05/2026 - Senedd Cymru

Gwyliwch a gwrandewch ar ddatganiad y Prif Weinidog ar flaenoriaethau'r Llywodraeth newydd yma: Senedd.tv - Y Cyfarfod Llawn - 19/05/26

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.