Ein hymweliad â Gŵyr

Gwnaeth Ynni Cymunedol Cymru ymweld â thri phrosiect anhygoel a oedd yn cael eu cefnogi gan ynni cymunedol yn ardal Abertawe yn ddiweddar. Darllenwch amdano yn y blog hwn gan Mirna, ein Swyddog Ymgysylltu Cymunedol.

Published: 13.05.2026 ( 5 days ago )

Dechreuodd y diwrnod yng Nghae Tân, prosiect Amaeth a Chefnogaeth y Gymuned yn Gŵyr, Abertawe. Ar ôl paned o de a bisgïen, gwnaethom glywed am sut mae’r tyfwyr yn ceisio mynd i’r afael â’r ffaith bod diffyg llysiau lleol yn cael eu tyfu yn yr ardal. Mae diogelwch bwyd yn dod yn flaenoriaeth i Gymru a’r byd ehangach, ac mae prosiectau fel yr un yma’n angenrheidiol ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd ac i fod o gymorth pan ddaw at leihau’r anghyfartaledd i fynediad at fwyd iachus. Mae hefyd yn goferu â’r byd ynni, gan fod bwyd sy’n cael ei dyfu’n lleol yn torri’r angen am danwydd ffosil i gludo bwyd o’r tyfwyr i’r defnyddwyr.

Ar ôl tro hyfryd o amgylch Cae Tân, aethom draw i weld melin ddŵr a Chanolfan Treftadaeth Gŵyr. Roedd y felin wedi cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy ers 900 mlynedd, ffaith sy’n dangos i ni nad peth newydd yw ynni adnewyddadwy. Wrth gerdded o amgylch Canolfan Treftadaeth y Gwŷr, daeth hi’n amlwg ein bod ni oll angen gweithio ar gyfer dyfodol lle mae peirianneg ddynol yn cydweithio gyda natur er budd y gymuned. Ynghyd â gweithgareddau ar gyfer y gymuned, mae Canolfan Treftadaeth Gŵyr wedi galluogi i entrepreneuriaid i roi cynnig ar eu syniadau. Cawsom y cyfle i fwyta cinio arbennig y Gower Gourmet Kitchen, lle maent yn gwneud bwyd ffres, cartref gan ddefnyddio ryseitiau traddodiadol, a chynhwysion lleol.

Er mwyn gorffen ein diwrnod, aethom i fferm Killan Fach, y tu allan i Abertawe. Mae’r parc solar yn cynhyrchu digon o ynni i bweru 300 o dai. Ynghyd â chynhyrchu ynni lleol, maent hefyd yn gweithio gydag entrepreneuriaid lleol i ddatblygu ac adfywio economi’r rhan hwn o Abertawe.

Edrychwn ymlaen at ymweld â rhagor o aelodau YCC a chael ein hysbrydoli gan eu prosiectau arbennig a’u buddion cymunedol.

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.