Dechrau eich prosiect

Camau cyntaf i ddechrau prosiect:

Siaradwch â phobl leol gyda sgiliau allweddol

Edrychwch pwy fydd yn fodlon eich helpu, mae criw craidd o bobl ymroddedig yn allweddol i wireddu prosiectau.

Ymchwiliwch i mewn i'r gymuned

Edrychwch ar eich ardal, oes gennych chi fynediad at dir neu adeiladau? Beth yw defnydd ynni'r gymuned? Pwy fuasai'n gallu buddio o brosiect?

Ffurfiwch eich Sefydliad

Unwaith mae gennych chi criw o bobl a syniad am eich prosiect, gall eich sefydliad ddod yn aelod o Ynni Cymunedol Cymru, sicrhau arian, yswiriant a chyrraedd anghenion eraill.

Arian

Gall arian ar gyfer eich prosiect ddod o gyfranddaliadau cymunedol, cydweithio gyda phartneriaid eraill, grantiau neu fenthyciadau. Mae natur y gefnogaeth yn newid yn gyson, ac mae Ynni Cymunedol Cymru yn rhannu cyfleoedd ariannu gyda'n haelodau.

Mae cymorth ar gael!

Mae Ynni Cymunedol Cymru yma i gefnogi datblygiadau ynni cymunedol yng Nghymru o'r dechrau i'r diwedd. Os hoffech chi ddarganfod mwy cysylltwch â ni.

Rydym wedi cychwyn Fforwm Datblygu, i helpu cymunedau ar ei siwrnai i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol. Darganfyddwch ragor yma.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.