Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Mae ynni cymunedol yn cyfeirio at ynni adnewyddadwy sydd wedi'i arwain gan y gymuned, boed o dan berchnogaeth lawn ac wedi'i rheoli'n gyfan-gwbl gan gymunedau, neu drwy bartneriaeth â phartneriaid masnachol a chyhoeddus.
Rydym yn credu bod ynni cymunedol yn rhan allweddol o gyrraedd y newid angenrheidiol a theg sydd angen ei weld yn y system ynni. Mae prosiectau Ynni Cymunedol yn gallu bod yn darparu ymddiriedaeth leol sy'n hybu ac yn cyflawni newidiadau fel ynni adnewyddadwy lleol, mesuryddion clyfar, asesiadau ynni, ôl-osod effeithlonrwydd ynni, gwefru cerbydau trydan ac yn y blaen. Maent yn cynnwys:
• Hybu'r economi
• Rhoi'r elw yn ôl i mewn i brosiectau cymunedol eraill
• Mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
• Addysgu pobl am ynni
• Trafod effeithlonrwydd ynni gyda phobl a'u cefnogi i gymryd unrhyw gamau.
• Cefnogi a chreu gwasanaethau lleol
• Adeiladu capasiti a sgiliau pobl leol a sefydliadau
• Cynyddu cynaliadwyedd adeiladau ac ysgolion cymunedol
• Cefnogi cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd
• Ysgogi a chefnogi mentrau newydd yng nghefn gwlad
• Cefnogi diwylliant Cymraeg a'r iaith Gymraeg
Rydym yn casglu rhagor o dystiolaeth am hyn bob blwyddyn wrth i'r sector dyfu. Darganfyddwch ragor yn ein hadroddiad Cyflwr y Sector blynyddol.
Edrychwch ar ein map aelodaeth i ddarganfod eich prosiect agosaf.
Mae nifer o ddulliau i gefnogi ynni cymunedol:
Os ydych chi eisiau dechrau grŵp ynni cymunedol neu brosiect, mae tipyn o gymorth ar gael. Yn gyntaf, ystyriwch y camau yn y Cwestiynau Cyffredin ar "Sut fedra i gefnogi Ynni Cymunedol ar lefel bersonol?" uchod.
Yn Ynni Cymunedol Cymru, rydym yn rhedeg Fforwm Datblygu a chyfarfodydd gweithgorau rheolaidd, ble mae aelodau'n rhannu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth gan ddarparu a gofyn am gymorth i wireddu eu prosiectau. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Mae hefyd cefnogaeth ar gael i grwpiau newydd drwy rwydwaith Egin. Drwy Egin, gall grwpiau cymunedol ennill mynediad at gefnogaeth gan Fentor fydd yn gallu eu helpu i weithredu yn wyneb newid hinsawdd, a byw'n fwy cynaliadwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth i nifer o'n haelodau presennol ers dros ddegawd - yn cynnwys cyngor, adnoddau a thempledau, grantiau i ddatblygu prosiectau, a benthyciadau i'w hadeiladu. Mae'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael yng Ngwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Mae natur y cymorth ariannol sydd ar gael yn newid yn gyson. Rydym yn rhannu diweddariadau cyson am grantiau a benthyciadau drwy ein cylchlythyr misol. Os hoffech chi drosolwg o'r gefnogaeth ariannol bresennol, cysylltwch â ni.
Nid oes gan Ynni Cymunedol Cymru adnoddau diddiwedd – ond byddwn yn eich helpu chi mewn unrhyw ddull sy'n bosib i ni i archwilio opsiynau a symud ymlaen â'ch uchelgais yn lleol. Os oes gennych chi ragor o gwestiyna cysylltwch â ni.