Fforwm Datblygu

Fforwm Datblygu Ynni Cymunedol Cymru

Os ydych chi’n defnyddio eich aelodaeth gydag Ynni Cymunedol Cymru neu RhanNi ar gyfer un peth, sicrhewch mai cymryd rhan yn Fforwm Datblygu yw hynny.

Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu a phrisiau ynni barhau i gynyddu, mae nifer o gymunedau wedi bod yn cysylltu â ni i ddysgu sut i gymryd rheolaeth dros ddyfodol eu hynni. Mewn ymateb, rydym ni wedi creu Fforwm Datblygu, er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth cymunedau Cymru.

Bydd Fforwm Datblygu yn gasgliad o arbenigwyr a rheiny sydd am ddatblygu prosiectau ynni cymunedol o fewn eu cymunedau, ac yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn. Byddwch yn clywed gan bartneriaid allanol, aelodau cymunedol profiadol a staff o Ynni Cymunedol Cymru.

Mae Ynni Cymunedol Cymru eisiau ei gwneud hi mor hawdd â phosib i aelodau rhannu eu gwybodaeth a phrofiad mewn dull sy’n gyson gyda phawb sy’n dangos diddordeb. Rydym eisiau gallu rhoi cymorth i aelodau i reoli problemau capasiti sy’n codi o hyn.

Rydym yn credu’n gryf yng ngrym o ddysgu drwy weithredu. Rydym eisiau ehangu’r sector ac yn gweld rhan cynyddol ynni cymunedol fel dull hanfodol o bontio’n gyfiawn tuag at economi carbon isel.

Bydd Fforwm Datblygu yn gymuned o gymunedau, ac yn casglu ynghyd y bobl sy’n gweithredu’r prosiectau ynni cymunedol arbennig yng Nghymru. Ymunwch â ni wrth i ni adeiladu mudiad ynni cymunedol, a phontio’n gyfiawn at system ynni digarbon.

Mae'n bosib tanysgrifio i fod yn rhan o Fforwm Datblygu yma.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.