Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Bydd Ynni Cymunedol Cymru yn cynnal ein cynhadledd ynni cymunedol gyntaf erioed ar gyfer Canolbarth Cymru ar 5 Tachwedd.
Bydd Ynni Cymunedol Cymru yn cynnal ein cynhadledd ynni cymunedol gyntaf erioed ar gyfer Canolbarth Cymru ar 5 Tachwedd, mewn partneriaeth â Tyfu Canolbarth Cymru a Rhaglen Arloesi ar Hinsawdd Llywodraeth Cymru. Dyma ddigwyddiad diwrnod o hyd sy’n dod â sefydliadau cefnogi, grwpiau lleol, ymarferwyr a chymunedau at ei gilydd—p’un a ydynt eisoes yn cyflawni prosiectau ynni cymunedol neu’n dymuno dechrau arni.
Mae hon yn gyfle i ddysgu, cael cefnogaeth a chreu cysylltiadau, boed eich prosiect ar ei gamau cynnar neu eisoes ar waith. Mae’r digwyddiad yn agored i grwpiau ynni cymunedol presennol, cymunedau o bob maint sy’n archwilio prosiectau newydd, ffermwyr a thirfeddianwyr, awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned, sefydliadau’r trydydd sector, a phawb sydd â diddordeb mewn datblygu prosiect lleol eu hunain.
📅 Dyddiad: 5 November 2026
📍 Lleoliad: The Hanging Gardens, Llanidloes
🕒 Amser: 9.30am – 3.30pm
🎟️ Cofrestru
Mae mynychu’n rhad ac am ddim, ond mae’n hanfodol archebu lle. Cofrestrwch a chanfod mwy o fanylion drwy’r ddolen hon: https://tinyurl.com/4bhratcd