O'r Gynhadledd

Adroddiad o Gynhadledd Ynni Cymunedol Cymru

Published: 19.06.2025 ( 5 days ago )

Cafwyd dau ddiwrnod bywiog a diddorol yn ein cynhadledd yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth. Mae’r gynhadledd yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i ni fel tîm. Bob blwyddyn mae yna gyffro ac egni pan ddaw ein aelodau at ein gilydd i rannu syniadau a chynllunio trywydd ymlaen ar gyfer y sector.

Roedd y Theatr Shepard yn CAT yn orlawn – gyda dros 100 o bobl yn bresennol, naid sylweddol o’r 80 o bobl ddaeth y llynedd.

Gwnaeth Gweithredwr Rhwydwaith Ddosbarthu Cymru – SPEN ac NGED noddi’r digwyddiad, ac roeddent ar gael drwy gydol y ddau ddiwrnod yn yr hwb DNO – gan roi cyfle i aelodau YCC daro heibio a siarad i beirianwyr a swyddogion o’r ddau sefydliad.

Agorwyd y gynhadledd gan Grace James, sydd newydd raddio o brifysgol Exeter gyda mewnwelediad i’w hymchwil hi ar yr ymateb yn erbyn sero net o fewn cymunedau ym mhowys, a rhai o’r rhesymau y tu ôl iddynt. Bu trafodaeth agored ar rai o’r pwyntiau a godwyd gan Grace wedi hyn.

Cafwyd anerchiad gan Rebecca Evans Aelod Senedd Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Ynni. Gwnaeth yr Aelod Seneddol Michael Shanks, Gweinidog Ynni gynnal sesiwn holi ac ateb drwy gyswllt fideo, fe wnaeth y ddau gynrhychiolydd leisio eu cefnogaeth ar gyfer y sector ynni cymunedol.

Yn sesiwn y prynhawn, gwnaeth swyddogion y Ganolfan Dechnoleg Amgen gynnig teithiau o amgylch y safle, gyda nifer yn mwynhau’r cyfleusterau ar gael yno.

Drannoeth, dechreuodd y diwrnod gyda gweithdy – cyfle i aelodau i ddarparu adborth ar ein maniffesto ddrafft ar gyfer y Senedd. Roedd hi’n drafodaeth fywiog, gyda chefnogaeth eang a iachus i’r polisïau a gynigwyd. Byddwn ni nawr yn gweithio fel tîm i fireinio’r maniffesto ddrafft, yn barod i’w gyhoeddi ym mis Medi.

Mae’n draddodiad bellach i gynnig ein sesiwn olaf yn y gynhadledd i’n haelodau, fel cyfle iddyn nhw i ddangos y gwaith rhyfeddol ac ysbrydoledig sy’n gweithio yng nghymunedau Cymru ar lawr gwlad. Y flwyddyn hon, fe wnaethon ni glywed am gynulliadau cymunedol wedi’i arwain gan GwyrddNi ac Hay Resilience, prosiect Gwyrdd Bangla sy’n gweithio i ddatgarboneiddio adeiladau ffydd a chymunedol y gymuned De Asaidd yn Ne Cymru, ac am prosiect hydro Cambrian F.C.

Myfyrdodau o’r cyfryngau cymdeithasol ac adborth arall:

“Tîm arbennig, wedi’u gyrru i wneud gwahaniaeth go iawn drwy gynhyrchu syniadau, cysylltiadau a zing.” – Gareth Clubb

“Yr uchafbwynt oedd clywed gan rai o’r prosiectau ynni cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn o fewn eu cymunedau. Mae ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth gymunedol yn cynnig cyfle i bobl Cymru i wirioneddol gweld budd o ynni sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru – gan ddysgu gwersi’r gorffennol – i beidio a’n cymryd ni tua nôl tra bod eraill yn parhau at dyfodol ag ynni glân.” – Julia Davies, We Have the Power

“Ges i amser arbennig yng nghynhadledd Ynni Cymunedol Cymru yr wythnos hon. Cymaint o sgyrsiau a syniadau diddorol wedi codi” – Zoe Holliday, Community Energy Scotland

“Da iawn Ynni Cymunedol Cymru am ddau ddiwrnod cadarnhaol yn lleoliad rhyfeddol Y Ganolfan Dechnoleg Amgen. Straeon ysbrydoledig ym mhob cornel a chysylltiadau gwych wedi’u gwneud.” – Owen Llewellyn Jones, Green Gen Cymru

“Gwnaeth araith cadarnhaol ar gyfer y posibliadau ar gyfer y sector a chydnabyddiaeth ar gyfer buddion ehangach y mae prosiectau cynnig i gymunedau o Weinidog Ynni’r DU rhoi synnwyr go iawn o obaith at y dyfodol.” Richard Clay

“Fedra i ddim pwysleisio pa mor ysbrydoledig yw gweithio gyda’r sector hwn. Diolch yn fawr i Ynni Cymunedol Cymru am ein gwahodd i’r gynhadledd ac i’r rheiny wnaeth gymryd amser i siarad gyda ni.” – Sarah Jeffery, NGED

“Am brofiad i egnïo person, treulio dau ddiwrnod yn neidio’n ôl i fyd ynni cymunedol yng nghynhadledd Ynni Cymunedol Cymru” – Alex Wilcox Brooke – Pure Leapfrog

“Llwyth o ysbrydoliaeth, profiad wedi’i rannu – a hwyl! Diolch i’r trefnwyr am roi rhaglen mor dda at ei gilydd.” Lee Tufler, Severn Wye

“Cynhadledd Ynni Cymunedol Cymru 2025. Cymuned o bobol dda yn rhannu eu arbenigedd, eu ysbrydoliaeth a’u angerdd at y sector arbennig yma.” Meleri Davies

“Diolch i chi am eich holl waith ac i bawb yn YCC wnaeth wneud y gynhadledd yn llwyddiant. Roedd modd i ni rwydweithio a chwrdd a chynifer o bobl, dysgon ni dipyn, a joio hefyd.” Mike Eccles, Hay Resilience a derbynydd tocyn solidariaeth.

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.