Maniffesto Ynni Cymunedol Cymru: gweledigaeth feiddgar a hanfodol

Yn ein cyntaf o flogiau gwadd, Thora Tenbrink o Brifysgol Bangor sy'n ymateb i'n manifesto ar gyfer etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

Published: 18.09.2025 ( 8 days ago )

Sut gallwn ni gyrraedd sero net i Gymru? Sut gall ein defnydd o ynni fod yn gynaliadwy? Sut gallwn ni roi’r gorau i ddibynnu ar ynni tanwydd ffosil sy’n ddrud ac yn dinistrio’r hinsawdd? Sut gallwn ni sicrhau trosglwyddiad teg i ynni sy’n gwasanaethu pawb – nid dim ond y perchnogion busnes mawr cyfoethog (ac sydd yn aml ddim yn dod o Gymru)?

Cwestiynau mawr. Mae dau ateb posib: y cyntaf o’r rhain yw i anobeithio a dweud na fedrwn ni, mae’r her yn rhy fawr i unrhyw un i fynd i’r afael ag e. Yr ail yw i feddwl ei bod hi’n bosib, os ydyn ni’n dod at ein gilydd ac yn creu newid go iawn drwy gydweithio. Mae maniffesto Ynni Cymunedol Cymru yn dangos yn wych sut y gall yr ail opsiwn – yr un llawer mwy ysbrydoledig – weithio. Yn wir, mae’n bosibl mai dyma’r unig ffordd y gall weithio. Mae’r maniffesto hwn wedi’i seilio ar flynyddoedd o brofiad, cannoedd o sgyrsiau, ffynonellau lluosog o arbenigedd – a thalp sylweddol o weledigaeth ac optimistiaeth. Mae’r maniffesto’n pontio’r bwlch rhwng gweithredu cymunedol ar lawr gwlad a phenderfyniadau gan reiny mewn grym. Mae’r ddau’n angenrheidiol i wireddu newid, gan na fydd newidiadau polisi yn unig yn ddigonol, rhaid hefyd rhoi’r grym yn nwylo cymunedau i wneud gwahaniaeth.

Nid yw’r model echdynnol traddodiadol yn gweithio – ni ddylai neb ddefnyddio tir Cymru i echdynnu adnoddau gwerthfawr, a disgwyl i gymunedau fod yn fodlon gyda hyn, heb idynt dderbyn unrhyw fudd.

Felly beth yw’r newidiadau hyn, a beth all cymunedau ei wneud? Mae’r maniffesto’n egluro popeth yn glir, gan ddarparu trywydd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Y neges bwysicaf yw na ellir – ac na fydd – y trosglwyddiad tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn digwydd heb gymunedau Cymru. Nid yw’r model echdynnol traddodiadol yn gweithio – ni ddylai neb ddefnyddio tir Cymru i echdynnu adnoddau gwerthfawr, a disgwyl i gymunedau fod yn fodlon gyda hyn, heb idynt dderbyn unrhyw fudd. Y dull i ehangu adnoddau ynni cynaliadwy yn llwyddiannus yw drwy ynni cymunedol: ynni lle mae perchnogaeth a phenderfyniadau yn nwylo cymunedau, gyda’r buddion yn aros yn yn lleol i’r ardal y mae’r ynni’n cael ei gynhyrchu ynddo.

Sut gall y weledigaeth hon ddod yn realiti? Mae maniffesto YCC yn cynnig rhai mesurau allweddol i rymuso cymunedau. Un o’r galwadau mwyaf pwysig yw sefydlu Cronfa Cyfoeth Cymunedol, a fydd yn galluogi Cymru i gael ffynhonnell arian er mwyn cychwyn prosiectau ynni cymunedol newydd a busnesau cymunedol eraill. Bydd y Gronfa hon yn cael ei hariannu gan ardoll newydd ar adnoddau naturiol a thrwy ddatganoli Ystâd y Goron. Mae nifer o syniadau defnyddiol ar sut i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer trosglwyddiad ynni dan arweiniad cymunedau.

Mae perchnogaeth gymunedol o systemau ynni adnewyddadwy wedi profi ei bod yn gweithio – gyda llwyddiant mawr ar draws modelau amrywiol – ond er mwyn i hyn gael ei wireddu drwy Gymru gyfan, mae’n rhaid gwaredu’r rhwystrau. Mae’n bosib i ni gyflawni’r her hwn – cyhyd â’n bod yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen, a gosod y mesurau sy’n cael eu cynnig gan YCC yn eu lle.

Mae Thora Tenbrink yn Athro Ieithyddiaeth a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.

Er mwyn darllen ein maniffesto, dilynwch y ddolen hon.

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.