Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Ein Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol Leanne Wood sy'n edrych nôl ar ddiwrnod yng Nghwm Clydach
Gwnaeth tîm Ynni Cymunedol Cymru gymryd amser oddi wrth eu desgiau a’u sgrîns i dreulio’r diwrnod yn Cambrian Village Trust Lakeside Cafe Bar. Am ddiwrnod arbennig oedd hi hefyd.
Ynghyd â diwrnod o drafod strategaethau a chinio gwych, mewn adeilad sy’n cael ei bweru gan dyrbin hydro 100kw, fe wnaeth y cyn-löwr a’r peiriannydd hydro Gareth Thomas roi trosolwg o hanes y cyn-safle glo, sydd bellach yn barc gwledig gyda dau lyn a rhwydwaith o lwybrau ar dipiau glo sydd wedi’u hailfeddiannu gan natur.
Gan ddangos casgliad o greiriau oedd yn berthnasol i’r diwydiant glo a phapur newydd teimladwy iawn o 1965 oedd yn arddangos ffrwydrad ym mhwll glo Cambrian, disgrifiodd Gareth y bywydau caled y bu’n rhaid i deuluoedd glowyr eu byw. Dywedodd hefyd nad oedd ailagor y pyllau yn gwneud unrhyw synnwyr, ac na fyddai byth eisiau neb i orfod gweithio o dan ddaear.
Dangosodd Gareth y cynllun hydro yn ogystal, gan esbonio sut y mae’n pweru’r caffi’n uniongyrchol. Mae hefyd ganddynt paneli solar ar gyfer ystafelloedd newid y clwb pêl-droed a chynlluniau i bweru rhagor ar y safle, gan osgoi costau trawsyrru ac felly arbed arian. Mae’r incwm o’u cynhyrchiant ynni’n ariannu nifer o brosiectau gwerth chweil sy’n helpu pobl a’u llesiant. Mae’r ddau lyn, y caffi, adnoddau pêl-droed, garddio, llogi beic, siop sy’n gwerthu cynnyrch lleol a llawer mwy yn cynnig man arbennig i dreulio amser ym myd natur sy’n gynhwysol i bawb.
Diolch o galon i Gareth am dy haelioni ac am rannu dy wybodaeth eang gyda ni. Ac i Phil a’r tîm yn y caffi am eich croeso. Cafodd tîm Ynni Cymunedol Cymru ddiwrnod arbennig yng Nghwm Clydach.
Mae Ynni Cymunedol Cymru yma i gefnogi cymunedau i wneud rhagor o’r hyn y mae’r Cambrian Village Trust yn ei wneud. Gallwch ddarllen am ein cynigion a fydd yn helpu i alluogi rhagor o bethau tebyg yn fan hyn: Maniffesto Ynni Cymunedol Cymru 2026
Er mwyn ymuno â’r mudiad dros ynni cymunedol, tanysgrifiwch i RhanNi.