Mae ein byd yn newid. Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n newid hefyd.

Grace James, wnaeth graddio'n ddiweddar, sy'n ymateb i'n Maniffesto ar gyfer Etholiadau'r Senedd.

Published: 08.10.2025 ( 5 days ago )

Mae’r byd yn newid.

Mae’r effeithiau ry’n ni, fel rhywogaeth, wedi cael ar y blaned yn dechrau siapio bywydau’r dyfodol. Os ydym o ddifrif eisiau lleihau effaith newid hinsawdd ac addasu iddo, mae angen i ni wneud hynny mewn dull sy’n deg ac yn gweithio i gymunedau, nid yn eu herbyn.

Dyma pam, pan gofynwyd i mi ymateb i faniffesto Ynni Cymunedol Cymru 2026, ro’n i’n awyddus iawn i ddweud ie, am ei fod yn gosod gweledigaeth sy’n dangos sut all ein system ynni fod yn un sydd wedi’i arwain gan y gymuned, yn deg, ac sy'n grymuso.

Felly, beth mae’r maniffesto’n ceisio ei wneud?

Mae Ynni Cymunedol Cymru yn dadlau bod y newid i system ynni werdd angen mwy na adeiladu isadeiledd yn unig. Mae’r maniffesto yn galw am Ddeddf Ynni Cymunedol. Mae hyn yn cynnwys creu:

a. Cronfa Gyfoeth Gymunedol,

b. Ardoll ar Adnoddau Naturiol

c. Cyd-berchnogaeth gwerth chweil.

Mae'n weledigaeth sy'n cydnabod porensial ynni o dan berchnogaeth gymunedol i wella ffawd economaidd cymunedau Cymru.

Beth ydw i’n ei feddwl?

Fel rhywun sydd newydd graddio mewn daearyddiaeth, un o’r gwersi allweddol dw i wedi’i dysgu yw bod yna gysylltiad rhwng popeth. Mae newid hinsawdd yn effeithio mwy na’n hamgylchedd ni; mae’n effeithio ar ein gwleidyddiaeth, ein heconomi, ac ein llesiant. Dyma pam rwy’n ffeindio’r maniffesto mor gyffrous; mae’n cydnabod y ffaith bod y newid i’n system ynni angen bod ynghylch pobl ynghyd â thechnoleg a’r amgylchedd.

Pan wnes i ddechrau ymchwilio i mewn i brosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gwelais yn gyflym iawn bod nifer wedi’u cynllunio a’u datblygu heb fewnbwn gan y gymuned. Roedd priosiectau o raddfa fawr fel ffermydd gwynt neu beilonau’n gallu cael effaith ar dwristiaeth, a llygredd sŵn, ac effeithio bywydau pobl. Mae’r buddion yn aml yn cael eu cymryd gan reiny sydd yn bell o’r effeithiau hyn, tra bod pobl leol yn gorfod byw gyda’r effeithiau gwael.

Dyma pam bod ynni cymunedol yn gyffrous. Mae’n galluogi pobl leol i eiddo ar yr isadeiledd, rhannu’r elw, ac yn bwysicach na dim, cael dweud eu dweud am yr hyn sy’n cael ei adeiladu. Ym Mhowys, er enghraifft, mae nifer o bobl a phryderon am sut fydd ffermydd gwynt yn effeithio ar eu bywydau. Drwy adael i’r gymuned arwain, mae dewisiadau amgen fel paneli solar, neu osodiad wahanol o’r prosiect, yn gallu cael eu trafod yn agored. Y pwynt yw na ddylwn ni geisio gwneud yr un prosiect ym mhob man, ond bod cymunedau’n haeddu bod yn rhan o’r sgwrs.

Pam fod hyn o bwys

Yr hyn sy’n taro fi mwyaf yw symlrwydd y maniffesto. Mae’n dangos bod y broses o gynnwys cymunedau’n un syml, a dyna sut dylai hi fod. O fy mhrofiad (prin!) innau, pan ydych chi’n cynnwys pobl yn gynnar, rhoi gwybodaeth iddyn nhw, a’u grymuso i wneud penderfyniadau, mae pethau’n mynd yn fwy llyfn.

Dw i hefyd yn edmygu’r cynnig i greu gweithgor sy’n ailedrych ar ymgysylltu cymunedol yn gyson. Mae newid yn digwydd o hyd, boed yn wleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol, a bydd cadw cymunedau wrth raidd penderfyniadau yn ein helpu i addasu.

Mae hyn yn rhoi gobaith i mi. Gobaith bod ni yng Nghymru yn cymryd camau i’r cyfeiriad cywir.

Ambell beth cyn gorffen

Os oes un peth hoffwn i chi gymryd gyda chi o ddarllen y darn byr hwn, dyma hi: mae systemau’n cael eu datblygu i gefnogi cymunedau Cymru drwy’r newid yn ein system ynni, ond mae angen ewyllys gwleidyddol arnynt i lwyddo.

Mae maniffesto Ynni Cymunedol Cymru yn dangos i ni nad yw’r newid angen bod am ynni’n unig, gall hefyd fod am gyfiawnder, gyrmuso, a balchder lleol. Mae ein byd yn newid. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn newid hefyd, mewn ffordd nad yw’n gadael neb ar ôl.

Gallwch ddarllen y maniffesto yma: Maniffesto Ynni Cymunedol Cymru 2026

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.