Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Swyddog Marchnata a Hyrwyddo Ynni Cymunedol Cymru sy'n edrych ymlaen at ein cynhadledd.
Nes i ddechrau gweithio i Ynni Cymunedol Cymru yn ystod anterth Covid 19. Roedd hi’n brofiad rhyfedd. Dros y we ddes i nabod fy nghydweithwyr, a fy rôl newydd.
Bocsys bach ar y sgrîn oedd nifer o gymeriadau’r maes hwn am hydoedd.
Wrth i bethau lacio, a’r tîm newid ac ehangu, daeth y syniad o gynnal cynhadledd Ynni Cymunedol Cymru unwaith eto – rhywbeth nad oedd y sefydliad wedi’i wneud ers cyn fy nghyfnod i yno.
Ar ôl wythnosau o baratoi a nifer o droeon trwstan, daeth y peth at ei gilydd, bron yn wyrthiol.
Ar y diwrnod, dw i’n cofio cael fy synnu wrth gerdded o amgylch; pa mor naturiol oedd hi’n teimlo i ddod ynghyd fel hyn – y bobl fu’n bocsys ar y sgrîn yn sydyn yn iawn yn fyw – wedi’u hymgnawdoli, llawn cymeriad a chwerthin a dadleuon a syniadau.
Mae'r gynhadledd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, a efallai na ddylwn i fod wedi cael fy synnu o weld yr ysbryd hwn ynddi. Pobl ynni cymunedol ydym ni wedi’r cyfan – pobl sy’n credu mewn dod ynghyd i oresgyn heriau, ymdrechu’n dorfol, gweithredu’n gadarnhaol ac yng nghwmni pobl eraill.
Pobl ynni cymunedol ydym ni – pobl sy’n credu mewn dod ynghyd i oresgyn heriau, ymdrechu’n dorfol, gweithredu’n gadarnhaol ac yng nghwmni pobl eraill.
Wrth i’r sefyllfa ar lawr gwlad esblygu, a nifer o bobl ddechrau mynegi pryderon am ddatblygiadau ynni, a datgarboneiddio – mae gofyn mawr am y gweithredu cadarnhaol hwnnw. Yr angen i ddod ynghyd, â chyflwyno dyfodol amgen i gymunedau Cymru – un lle mae ganddynt reolaeth i sicrhau bod y system ynni yn gweithio er eu lles nhw, ac nid er lles grymoedd echdynnol.
Dyma yw prydferthwch ynni cymunedol – ymreolaeth, cydweithio torfol, blaenoriaethu pobl.
Mae'n werth bwrw golwg ar y rhaglen, gyda'r siaradwyr yn cynnwys gweinidogion ynni Llywodraethau Cymru a'r DU, sefydliadau ynni cymunedol sy'n creu gwaith arloesol heddiw, ynghyd â sesiwn ar greu maniffesto ynni cymunedol yn barod at etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.
Nid pawb sydd yn hyddysg yn ein system ynni. Efallai bod rhai â diddordeb yn y maes ac eisiau dysgu mwy amdano, ond heb y gallu i dalu am docyn. Er mwyn neud y maes mor gynhwysol â phosib, mae nifer cyfyngedig o docynnau “croesawu” sydd yn hepgor pris tocyn mynediad – cysylltwch â gwenno@ynnicymunedol.cymru os ydych chi â diddordeb.
Mae tocynnau ar gael o hyd i aelodau a’r rheiny nad yw’n aelodau.
Felly, dewch draw i’r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn Machynlleth, ar yr 10fed a 11eg o Fehefin, ymunwch yn ysbryd ynni cymunedol – ysbryd cadarnhaol, croesawgar, sydd llawn cymeriadau.