Mwyafrif o Gymry'n Cefnogi Ynni Cymunedol

Y cyhoedd o blaid prosiectau ynni cymunedol.

Published: 21.01.2025 ( a day ago )

Mae pôl YouGov a gyhoeddwyd heddiw gan Commonwealth yn dangos bod dros draean yn fwy o bobl yn cefnogi prosiectau ynni cymunedol o gymharu â phrosiectau ynni gwyrdd masnachol.

Fe wnaeth 29% ddweud y byddent yn cefnogi prosiect ynni o dan berchnogaeth breifat yn eu hardal, o gymharu â 63% y byddai’n cefnogi prosiect ynni cymunedol – gan wthio’r cefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy i’r mwyafrif. Dywedodd 51% y byddent yn fodlon lleihau eu defnydd ynni er mwyn cefnogi prosiect ynni cymunedol lleol.

Mae pobl Cymru’n barod i fod yn rhan o ddyfodol ynni gwell.

Dywedodd Leanne Wood, Cyd-gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru “Mae canlyniad y pôl hwn yn dangos pa mor poblogaidd yw ynni cymunedol, a pha mor fodlon ydy pobl i gymryd rhan mewn ynni cymunedol. Mae pobl Cymru’n barod i fod yn rhan o ddyfodol ynni gwell”.

Mae ystod eang o brosiectau ynni cymunedol sy’n bosib; o dyrbinau gwynt i storio batri, pympiau gwres o’r ddaear i gynlluniau hydro bychain, neu baneli solar i glybiau ceir trydan. Y ffactor allweddol yw bod asedau’n cael eu cadw o fewn perchnogaeth gymunedol dorfol, gyda arain yn cael eu hail-fuddsoddi i mewn i’r gymuned honno a busnesau cymunedol newydd.

Fodd bynnag, mae twf ynni cymunedol wedi cael ei rwystro dros y blynyddoedd diweddar, gyda grwpiau newydd yn ei chanfod hi’n anodd i ddatblygu model busnes hyfyw ar raddfa lai. Gwaredu’r tariff cyflenwi sydd y tu ôl i hyn, sybsidi oedd yn bodoli ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Dywedodd Ben Ferguson, Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol Ynni Cymunedol Cymru “Mae diwedd y tariff cyflenwi wedi effeithio’r sector ynni cymunedol yn anghymesur. Mae sefydliadau ynni cymunedol wedi bod yn ymdrechu i arloesi a dyfeisio o fewn y system presennol, ond yn elfennol mae angen newid o fewn rheoleiddiau’r farchnad i alluogi ni i dyfu”.

Ar hyn o bryd, mae’n anodd iawn i fudiad ynni cymunedol i werthu’r ynni maent yn ei gynhyrchu i bobl leol.

Mae sicrhau bod ynni cymunedol wrth galon polisïau ynni y ddwy lywodraeth yn angenrheidiol i’r polisïau hynny i ennill cefnogaeth y cyhoedd.

Dywedodd Leanne Wood, Ynni Cymunedol Cymru “Dyma’r rheswm ein bod ni’n galw ar Lywodraeth y DU i ddatgloi marchnadau ynni lleol, y gallu i gynhyrchu a gwerthu ynni yn lleol. Byddai hyn yn galluogi sefydliadau ynni cymunedol i ffynnu, a sicrhau fod gan ein cymunedau ymreolaeth pan ddaw at eu hynni. Mae’n amlwg fod yna gefnogaeth gref ar gyfer twf yn y sector ynni cymunedol, ar gyfer prosiectau ynni sydd o dan berchnogaeth cymunedau, ac i ragor o bobl i fod yn rhan o’r mudiad cyffrous hwn. Mae sicrhau bod ynni cymunedol wrth galon polisïau ynni y ddwy lywodraeth yn angenrheidiol i’r polisïau hynny i ennill cefnogaeth y cyhoedd”.

Mae rhagor o fanylion o'r pôl ar gael yma: The Public is Enthusiastic for Community Energy | Update | Common Wealth

Os ydych chi am ymuno â'r mudiad dros ynni cymunedol, ymunwch â RhanNi.

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.