Ynni Cymunedol: Canfod Delfryd yn y Cymoedd

Dr Huw Williams, Prifysgol Caerdydd, sy'n trafod ei brofiad yn lansiad Adroddiad Ynni Cymunedol Cymru.

Published: 23.12.2024 ( 29 days ago )

Dydw i ddim yn un sy’n agored iawn i ddatguddiad sydyn ac annisgwyl. Mae fy ngreddf naturiol, a fy hyfforddiant fel athronydd, yn fy arwain i at fod yn ansicr, i gwestiynu, i gadw elfen o amheuaeth. Bydda i’n dueddol o feddwl bod syniad wedi ymddangos yn rhywle o’r blaen, neu fod yna rhyw fath o gynsail i’r hyn sy’n cael ei ddweud – neu bwnc sy’n amlygu ei hun i fod yn “ddillad newydd yr ymerawdwr” gydag amser. Nid oes dim newydd dan yr haul.

Profiad annisgwyl oedd hi, felly, i fod yn eistedd yn lansiad Adroddiad Cyflwr y Sector Ynni Cymunedol Cymru, a gwrando ar Ian o Dreherbert yn siarad am ei goed. Nid stori ‘Croeso i’n Coedwig’ oedd canolbwynt ein sylw, fodd bynnag, ond is-blot yn y stori hon, oedd â diweddglo hapus tu hwnt. Fe siaradodd Ian gyda balchder ac angerdd am ei benderfyniad dros 7 mlynedd yn ôl i gymryd golwg hir-dymor ar bethau, a rhoi amser ac adnoddau i sefydlu cynllun ynni hydro lleol. Cymerodd sawl blwyddyn i’r buddsoddiad hwnnw dalu ei ffordd, ond mae’r cynllun hwnnw nawr yn darparu nid yn unig digon o ynni i redeg y prosiect, ond ynni dros ben sy’n gallu cael ei werthu yn ôl i mewn i’r grid, sydd yn ei dro’n cael ei fuddsoddi’n ôl yn y prosiect coed.

A chyda’r stori honno ddaeth ffrwd, onid, llif o sylweddoliadau i mi o ran y posibliadau ynghlwm ag ynni. Crwydrodd fy meddwl yn ôl i ysgrif dadlennol Nancy Fraser, The Old is Dying and the New Cannot be Born, sy’n defnyddio syniad Gramsci o’r interregnum i ddisgrifio fflycs gwleidyddol y Gorllewin, lle mae hygrededd neoryddfrydiaeth wedi hir ddiflannu drwy sawl argyfwng economaidd, amgylcheddol a gwleidyddol – ond lle mae methiant wedi bod i ganfod meddylfryd amgen a chreu synnwyr cyffredin o’r newydd.

Bu apêl eang gan sosialaeth ddemocrataidd draddodiadol Sanders, Corbyn a’u tebyg, ond nid oedd y ffurf hon ar sosialaeth yn gallu trosgynnu hen ragdybiaethau, gelynion strategol na’i chyfyngiadau ei hun er mwyn sefydlu ffurf o wleidyddiaeth ddigon hegemonaidd. Gwnaeth eu methiant etholiadol hefyd amlygu gwirionedd anodd sosialaeth wladwriaethol – dim ond pan fo’r wladwriaeth yn nwylo sosialwyr y mae’r wladwriaeth yn sosialaidd, rhywbeth sydd wedi bod yn brin dros yr hanner canrif diwethaf.

Yma yn y lansiad, fodd bynnag, ar ffurf unigolyn diymhongar oedd yn amlwg yn uchel ei barch, ymddangosodd y posibilrwydd o drywydd gwleidyddol arall, lle mae casglu a chadw adnoddau cynhyrchu’n lleol yn gallu gosod sylfaen ar gyfer trefn amgen. Un lle mae cymunedau’n rheoli eu hegni eu hunain, yn darparu ynni rhad i’w haelodau, ac yn creu elw o unrhyw beth dros ben. Dyma oedd y sylfaen materol i drosgynnu ein dibyniaeth ar system les wladwriaethol, neu’r manteisio rheibus gan gyfalafiaeth y cyfnod presennol, a chadw cyfoeth o fewn y gymuned mewn dull sy’n gyfan gwbl i’r gwrthwyneb i’r echdynnu a welwyd drwy law’r diwydiant glo.

Ar ffurf unigolyn diymhongar oedd yn amlwg yn uchel ei barch, ymddangosodd y posibilrwydd o drywydd gwleidyddol arall, lle mae casglu a chadw adnoddau cynhyrchu’n lleol yn gallu gosod sylfaen ar gyfer trefn amgen.

Ynghyd â hyn, gallasai fod yn sylfaen ar gyfer trefn ddemocrataidd amgen o’r newydd, lle mae ffurfiau o annibyniaeth ynni lleol sy’n atgyfnerthu’r economi sylfaenol yn galw am wneud penderfyniadau o bwys ac o arwyddocad go iawn yn lleol, gan leihau arwyddocad ein Senedd gysglyd a San Steffan pellennig.

Cefais fy atgoffa o waith yr athronydd arbennig o’r Alban, Alasdair MacIntyre, Marcsydd gynt, a drodd ei sylw at feirniadaeth foesol o foderniaeth ryddfrydol. Yn hwyrach ymlaen yn ei yrfa, heriodd ei waith y rhagdybiaeth ei fod yn rhyw fath o geidwadwr wrth-Oleuedigaeth, gan arddangos natur annemocrataidd a gorfawr cenedl-wladriaethau cyfalafol, ac yn lle hynny canu clodydd brogarwch a chymuned wleidyddol wedi’i hadeiladu ar ethos sydd yn rhoi gofod i gydsefyll ac i feirniadu, ynghyd â chynydd a sefydlogrwydd, fel ei gilydd.

Mae yna apêl amlwg i'r athroniaeth wleidyddol hon, yn enwedig felly oherwydd pan ddychmygodd MacIntyre esiampl bosib o'r byd go iawn o gymuned yn ôl y ddelfryd hon, cyfeiriodd at gymunedau glofaol De Cymru ar eu hanterth. Ond, tra bod y model wastad wedi fy nharo fel rhywbeth oedd yn cynnig math o wleidyddiaeth oedd yn wirioneddol amgen – a rhywbeth mwy gobeithiol na’r Gorfforiocratiaeth sy’n dyfod – roedd y model economaidd braidd yn simsan.

Fodd bynnag, pe bai Alasdair wedi clywed Ian yn siarad am gadw ein hadnoddau cynhyrchu yn lleol yn y fath modd, efallai y byddai yntau wedi cael ei ddarbwyllo cymaint â minnau fod y Cymoedd unwaith eto’n gallu darparu delfryd i ni gyd ei efelychu.

//

Gallwch ddarllen Adroddiad Cyflwr y Sector Ynni Cymunedol Cymru yma.

Gallwch ddod yn rhan o’r mudiad dros ynni cymunedol a chadw mewn cysylltiad yma.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.