Oherwydd ei fod yn gyrru’r economi ddiwydiannol fodern ac yn greiddiol i bron â bod holl weithgaredd y ddynoliaeth, mae ynni’n hanfodol ar gyfer lles economaidd a chymdeithasol. Ynni sy’n gyrru ein ffatrïoedd, peirianwaith, trafnidiaeth, ysbytai, hamdden a llawer mwy. Mae glo, olew a nwy wedi bod yn ffynonellau sylweddol o gynhyrchu trydan ers degawdau, ond mae eu llosgi yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr, gan ddifrodi’r hinsawdd, pobl, a’r amgylchedd. Oherwydd hyn, nid oes syndod bod y sector ynni’n gyfrifol am fwy na thri chwarter o nwyon tŷ gwydr y byd![1]
Fostering a stronger sense of community through local energy projects
Mae Cymru, fel rhan helaeth o weddill y byd, yng nghanol newid mawr i’n system ynni. Gwnaeth defnydd trydan yng Nghymru syrthio tua 650 GWh, tra wnaeth cynhyrchiant ynni adnewyddadwy gynyddu dros 130 GWh rhwng 2021 a 2022.[2] Mae’n amlwg bellach bod y newid hwn yn digwydd, y cwestiwn felly yw; sut ydyn ni’n ei reoli ar gyfer y canlyniad gorau i bobl Cymru.
Mae ynni cymunedol yn darparu un ateb. Drwy brosiectau ynni cymunedol, mae cymunedau’n cydweithio i greu, gwireddu a chasglu buddion drwy ynni cynaliadwy. Mae prosiectau tebyg yn rhychwantu cyflenwad ynni (gosodiadau ynni adnewyddadwy a storio) a lleihau defnydd o ynni (effeithlonrwydd ynni a rheoli’r galw amdano). Gall prosiectau ynni cymunedol hefyd gynnwys gwerthiant neu ddosbarthiant wedi’u harwain gan gymunedau.
Drwy brosiectau ynni cymunedol, gall unigolion fod yn rhan o fentrau ynni glân sy’n mynd y tu hwnt i’w cartrefi neu fusnesau, gan arwain at fuddion a chyfleoedd i’r gymuned ehangach. Mae rhai buddion yn cynnwys creu swyddi a hybu’r economi leol ynghyd â thorri costau ynni a darparu arbedion i’r rheini sy’n cymryd rhan mewn prosiectau ynni cymunedol.
Mae bod yn rhan o brosiectau tebyg yn gwella’r profiad o fod yn rhan o gymuned, un sy’n gweithio at les pob un o’i drigolion, gan adeiladu rhywbeth cadarnhaol a hirhoedlog at y dyfodol.
Nid yw’r cysyniad o brosiectau ynni cymunedol yn beth newydd, nac yn unigryw i Gymru. Mae mentrau ynni cymunedol yn rhan bwysig o bontio at system ynni glanach yn yr Almaen, Denmarc a’r Unol Daleithiau hyd yn oed. Yn 1978, fe wnaeth cymuned yn Denmarc adeiladu Tvindkraft, y tyrbin gwynt modern cyntaf. Yn yr Alban, mae ffermydd gwynt cymunedol wedi bod yn hollbwysig wrth hybu perchnogaeth leol o adnoddau ynni adnewyddadwy. Nid yn unig ydynt yn darparu ynni glân, maent hefyd yn cynhyrchu incwm sy’n gallu cael ei ail-fuddsoddi i mewn i brosiectau cymunedol, ac felly’n gwella seilwaith a gwasanaethau lleol. Mae adroddiad Ynni Cymunedol Cymru ar Gyflwr y Sector 2024 yn arddangos y cynnydd sydd wedi digwydd yng Nghymru ac yn cyflwyno achos cryf dros gael cymunedau wrth galon y newid yn ein system ynni, ac argymhellion ar gyfer hynny.
Mae prosiectau ynni cymunedol yn cynnig model busnes newydd gyda buddion ariannol a chymdeithasol. Mae nifer o ffactorau’n gyrru’r ymwneud â phrosiectau ynni cymunedol, gan gynnwys lleihau newid hinsawdd, lleihau costau ynni o fewn cymuned, ac adeiladu cymunedau cryfach a dygnach. Gyda’r diddordeb mewn cynhyrchu cyfoeth yn lleol ar ei dyfiant, dylai prosiectau ynni cymunedol fod yn rhan o gynlluniau i greu cyfoeth cymunedol, lleol, yn enwedig felly o fewn cymunedau difreintiedig.
Mae prosiectau tebyg yn hybu synnwyr cryfach o gymuned drwy ddarparu pwrpas a chyrhaeddiad, creu balchder sifig lleol newydd, a thrwy gysylltu pobl byddai fel arall wedi aros yn gymdogion anhysbys. Uwchlaw hyn oll, mae bod yn rhan o brosiectau tebyg yn gwella’r profiad o fod yn rhan o gymuned, un sy’n gweithio at les pob un o’i drigolion, gan adeiladu rhywbeth cadarnhaol a hirhoedlog at y dyfodol.
[1] Gwelir www.iea.org/data-and-statistics/data-tools/greenhouse-gas-emissions-from-energy-data-explorer
[2] Gwelir www.regen.co.uk/publications/energy-generation-and-use-in-wales/