Sut fedrwn ni ymryddhau o afael y rheini sy’n rheoli ein cyflenwad ynni ac ymrymuso ein cymunedau, ein teuluoedd ac ein hunain, yn hytrach na’r cyfoethacaf yn ein byd?
Un dull, ac efallai’r dull gorau, yw i hybu prosiectau ynni cymunedol ac adnewyddadwy ledled Cymru. Yn well fyth, eu cyfuno gydag ymgais go iawn at ddefnyddio technoleg a systemau effeithlonrwydd ynni, a galluogi pobl i fyw’n well ar lai o ynni. Byddai hyn yn lleihau’r galw am ynni, ac felly’n lleihau’r effaith ar fywyd gwyllt a chyfleusterau, gan rymuso pobl ar yr un pryd.
Yn gyffredinol mae pobl yn meddwl yn nhermau ynni solar, gwynt a hydro adnewyddadwy ond mae’n bosib y byddai gwres geothermol yn gallu bod yn rhan o seilwaith ynni cymunedau cyn-lofaol hefyd.
Mae nifer o fanteision eraill i brosiectau ynni cymunedol, sy’n cael eu hamlinellu yn yr Adroddiad ar Gyflwr y Sector Ynni Cymunedol. Mae’r adroddiad yn darparu nifer o esiamplau o grwpiau ynni cymunedol sy’n annog cydweithio cymunedol, ynghyd â darparu cyllid ar gyfer amryw fentrau lleol a mentrau eraill ynni glân. Mae rhan helaeth o’r prosiectau hefyd yn rhoi cymorth i bobl i ddod yn fwy ymwybodol o’n dibyniaeth ar ynni, a sut rydym yn ei ddefnyddio – gan arwain, gobeithio, at agwedd fwy agored at weithrediadau syml i leihau gwastraff.
Rhaid i ni hefyd gydnabod fod natur ynni adnewyddadwy yn ysbeidiol, a’i fod angen systemau storio ac ynni wrth gefn, yn cynnwys y gallu i fewnforio trydan, ar adegau. Rhaid i hyn fod yn rhan o strategaeth sy’n gweithio ar y cyd ag ynni wedi’i gynhyrchu’n gymunedol.