Galwad am Aelodau Bwrdd

Ymunwch â bwrdd Ynni Cymunedol Cymru

Published: 11.12.2024 ( 11 days ago )

Aelod Bwrdd – Swydd Ddisgrifiad

Rôl gwrifoddol yw bod yn Aelod o fwrdd Ynni Cymunedol Cymru. Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd yn cael eu cynnal dros y we. Bydd treiliau’n cael eu talu ar gyfer cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb a digwyddiadau.

Mae cyfarfodydd llawn y bwrdd yn cael eu cynnal pob chwarter.

Ceir tri phwyllgor. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cyfarfod pob chwarter, a’r Pwyllgor Risg a Llywodraethant a’r Pwyllgor Cyflogaeth a Thâl yn cyfarfod dwy waith y flwyddyn. Mae disgwyl i bob aelod gyfarfod dwy waith y flwyddyn. Mae disgwyl i bob aelod eistedd ar naill ai’r Pwyllgor Cyllid, neu’r Pwyllgor R a Ll, a’r Pwyllgor C a Th ill dau.

Mae pob un cyfarfod bwrdd a phwyllgor wedi’u trefnu i fod yn awr o hyd. Mae'r amserlen y cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn yn cael ei ddarparu i aelodau bwrdd yn Rhagfyr.

Darperir papurau ar gyfer cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor wythnos o flaen llaw ar gyfer y cyfarfodydd hynny, ac mae disgwyl i aelodau eu darllen cyn y cyfarfod.

Anogir aelodau i ofyn cwestiynau i’r Cyd-gyfarwyddwyr Gweithredol a Chadeiryddion y Pwyllgorau i sicrhau fod yna graffu o safon ar ein gweithrediadau.

Mae’n bosib bydd gofyn i aelodau gynnal cyfarfod un-i-un ar faterion penodol gyda’r Cyd-gyfarwyddwyr Gweithredol.

Anogir Cyfarwyddwyr i gymryd rhan mewn paneli recriwtio.

Mae ein cynhadledd blynyddol yn cael ei ddal ym Mehefin bob blwyddyn ac mae croeso i aelodau bwrdd i fynychu. Byddwn yn talu am eich llety, bwyd, a chostau cofrestru.

Anogir aelodau bwrdd YCC i ymddwyn fel cenhadwyr dros ynni cymunedol wrth ymwneud â sefydliadau allanol a’r cyhoedd.

Anogir cyfarwyddwyr i gymryd rhan yn hyfforddiant y WCVA ar gyfer aelodau bwrdd ar ôl ymuno.

Mae aelodau bwrdd newydd yn cael eu pleidleisio i’r bwrdd yn y Cyfarfod Cyffredinol (Medi). Mae modd i aelodau newydd fynychu cyfarfodydd y bwrdd os ydynt wedi cael eu cymeradwyo gan weddill y cyfarwyddwyr tra’n aros am benderfyniad y cyfarfod cyffredinol.

Anogwn geisiadau ar gyfer y bwrdd gan ein haelodau. Rydym yn croesawu’n benodol aelodau gyda nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) er mwyn hybu amrywiaeth.

Ceisiadau – anfonwch CV a llythyr eglurhaol at ein Cyd-gyfarwyddwyr Gweithredol Leanne Wood a Ben Ferguson, drwy e-bostio gwenno@ynnicymunedol.cymru.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.