Fideos Areithiau'r Arweinwyr

Gwyliwch arweinwyr y pleidiau glweidyddol yn ymateb i faniffesto Ynni Cymunedol Cymru

Published: 13.04.2026 ( 13 days ago )

Ar ôl i Ynni Cymunedol Cymru gyhoeddi ein manifesto ar gyfer etholiadau’r Senedd nôl yn mis Medi 2025, gwnaethom ofyn i'r pleidiau glweidyddol yng Nghymru i ymateb iddo.

Fe wnaeth pedair ohonynt ymateb. Yn dilyn hyn, ymestynnwyd wahoddiad i bob un o'r arweinwyr gwleidyddol i roi araith yn yr etholaethau maent yn sefyll ynddynt, mewn lleoliad sydd yn eiddo i aelodau cymunedol YCC.

Mae'r maniffesto, a ddrafftiwyd mewn proses cydweithredol gyda’n haelodau, yn amlinellu ystod o gynigion polisi a fydd, os ydynt yn cael eu gwireddu gyda’i gilydd, yn creu’r amgylchiadau i ynni cymunedol a pherchnogaeth gymunedol i ffynnu.

Mae aneirif resymau i gefnogi creu cymunedau ynni, sy’n boblogaidd mewn nifer o wledydd Ewropeaidd eraill, ac yn cael ei amlinellu yn y maniffesto:

https://communityenergy.wales/...

Fel sector roedden ni’n yn awyddys iawn i glywed gan y pleidiau gwleidyddol a allai ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, fel bod cymunedau ynni’n gallu tyfu.

Mae ein haelodau a’n cefnogwyr eisiau gwybod yr hyn mae'r pleidiau yn bwriadu ei wneud i gefnogi perchnogaeth gymunedol o asedau ynni, fel eu bod yn gallu gwneud y dewis cywir o ran eu pleidlais.

Trefnwyd pedwar araith.

Bu Anthony Slaughter o Blaid Werdd Cymru gyda Gwyrdd Bengla yng Nghaerdydd.

Bu Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru gyda Ynni Ogwen ym Methesda.

Bu Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda Awel Aman Tawe yng Nghwm Gors.

Bu Huw Irranca-Davies gyda'r Arts Factory ym Maerdy.

Dyma’r pwyntiau y gofynwyd i arweinwyr y parti i ymateb iddynt:

1. Ymateb i bob un o’r cynigion polisi yn maniffesto YCC fel pecyn o fesurau i’w gyflwyno i lywodraeth nesaf Cymru

2. Amlinellu eu safbwyntiau a’u pryderon am natur a’r hinsawdd ac esbonio pa fesurau y maent am eu cyflwyno i’r llywodraeth nesaf i wella bioamrywiaeth a gwyrdroi colled rhywogaethau.

3. Esbonio beth y maent am ei wneud i greu’r amgylchiadau i helpu a chefnogi cymunedau i adeiladu a chadw asedau o dan berchnogaeth gymunedol – sut ydynt am gymunedoli Cymru?

Dyma araith Anthony Slaughter o'r Blaid Werdd:

Dyma araith Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru:

Dyma araith Huw Irranca-Davies o'r Blaid Lafur:

Dyma araith Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol:

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.