Sut i ddefnyddio'r pecyn hwn
Diolch am fod yn rhan o'n hymgyrch dros ynni cymunedol. Mae gan y pecyn hwn nifer o adnoddau i'ch helpu i drefnu ac adeiladu ymgyrch leol dros ynni cymunedol cyn etholiadau'r Senedd sydd ar ddod.
Fel sefydliadau ynni cymunedol, neu aelodau RhanNi, mae gennych fynediad at rwydwaith o unigolion yn eich cymuned a thu hwnt sydd â diddordeb ac wedi buddsoddi mewn ynni cymunedol. Defnyddiwch y pecyn hwn i ymgysylltu â nhw ac adeiladu sylfaen o gefnogaeth i ynni cymunedol.
Bwriedir i'r pecyn gael ei ddefnyddio fel y mynnwch, gallwch ddewis a dethol yr adnoddau a fyddai'n gweithio orau i chi a'ch cymuned.
Mae'r pecyn yn cynnwys:
Mae gan Gyfeillion y Ddaear adnodd gwych sy'n dangos sut i gynnal hustyngau: Canllaw i gynllunio hystings | Gweithredu lleol. Bydd Climate Cymru hefyd yn cynnig hyfforddiant ar hyn yn fuan. Os oes gennych ddiddordeb yn hyn, cysylltwch â post@ynnicymundeol.cymru
Dyma brif negeseuon yr ymgyrch:
Dyma beth mae ein mudiad ei eisiau gan y system ynni:
- Ynni Rhad i Gymunedau
- Ymreolaeth Gymunedol
- Adeiladu Cyfoeth yn ein Cymunedau
Er mwyn gwneud hynny, rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru:
- Greu Cronfa Cyfoeth Cymunedol
- Darparu Cyd-berchnogaeth gweth chweil
- Sicrhau Buddion Cymunedol Teg
Dyma rai syniadau i chi ddefnyddio'r pecyn hwn:
- Trefnu cyfarfod cychwynnol yn eich cymuned leol i annog pobl i gymryd rhan ac i rannu syniadau a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu (a fydd yn amrywio o ardal i ardal).
- Cynnal dangosiad ffilm
- Gwahodd ymgeiswyr lleol i ymweld â'ch prosiect lleol
- Cael llun grŵp gyda'r posteri yn eich prosiect ynni cymunedol lleol
- Gwahodd ymgeiswyr lleol i gyfarfod
- Cynnal digwyddiadau cymdeithasol fel digwyddiad gwin a chaws neu dwmpath i annog cyfranogiad
- Dechrau deisebau yn galw am ynni cymunedol lleol
- Cynnal stondin mewn tref leol neu fel rhan o ddigwyddiad lleol
- Rhannu lluniau gyda phosteri ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
- Trefnu protest neu rali dros ynni cymunedol a gwahodd ymgeiswyr i siarad.
- Gwahodd côr lleol i ganu a siarad â'r gynulleidfa am ynni cymunedol
- Argraffu taflenni a'u gwasgaru o amgylch eich cymuned.
- Anfon llythyr at eich ymgeiswyr lleol yn gofyn iddynt addo eu cefnogaeth i ynni cymunedol.
- Mynd â'r taflenni i ddigwyddiad cymunedol i'w rhannu
- Rhoi poster yn eich ffenestr
- Casglu enwau i greu llythyr ar y cyd at ymgeiswyr
- Gwahodd ymgeiswyr i ymateb i faniffesto ynni cymunedol – trwy fideo, yn ysgrifenedig, neu mewn araith
- Creu fideos yn eich prosiect yn sôn am ynni cymunedol – gan ddefnyddio ein negeseuon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd nodiadau drwy gydol y broses/cadw log o'r broses gyfan.
Rhowch adborth i ni ar yr hyn rydych chi wedi llwyddo i'w wneud!