Areithiau'r Arweinwyr

An opportunity to hear the party leaders' reaction to the Community Energy Wales manifesto.

Published: 03.02.2026 ( 23 hours ago )

Gwnaeth Ynni Cymunedol Cymru gyhoeddi ein manifesto ar gyfer etholiadau’r Senedd nôl yn mis Medi 2025.

Drafftiwyd y maniffesto mewn proses cydweithredol gyda’n haelodau, gan gynnwys sesiwn cynnig newidiadau yng Nghynhadledd Ynni Cymunedol fis Mehefin 2025 yng Nghanolfan Technoleg Amgen Machynlleth.

Mae’r maniffesto yn amlinellu ystod o gynigion polisi a fydd, os ydynt yn cael eu gwireddu gyda’i gilydd, yn creu’r amgylchiadau i ynni cymunedol a pherchnogaeth gymunedol i ffynnu.

Mae aneirif resymau i gefnogi creu cymunedau ynni, sy’n boblogaidd mewn nifer o wledydd Ewropeaidd eraill, ac yn cael ei amlinellu yn y maniffesto:

https://communityenergy.wales/content/publications/Community-Energy-Wales-Manifesto-2026.pdf

Fel sector rydym yn awyddys iawn i glywed gan y pleidiau gwleidydd a allai ffurfio llywodraeth nesaf Cymru os ydynt yn cefnogi ynni cymunedol a beth byddai llywodraeth sy’n cael ei harwain ganddynt yn ei wneud i greu’r amgylchiadau fel bod cymunedau ynni’n gallu tyfu.

Felly, ysgrifennom at awduron pob un o faniffesto’r pleidiau mawr pan cyhoeddwyd ein maniffesto ni.

Fe wnaeth pedwar o’r chwech plaid ymateb yn gadarnhaol. Nid ydym wedi clywed gan y gweddill – buasai’n wych pe baent yn gallu cysylltu â ni i roi eu barn am y maniffesto cyn yr etholiad. Mae ein haelodau a’n cefnogwyr eisiau gwybod sut y mae’r sector ynni cymunedol yn cael ei weld a pha pleidiau sy’n cynnig cefnogaeth i berchnogaeth gymunedol ac ynni cymunedol, cyn eu bod yn gwneud dewis ar eu pleidlais.

Oherwydd hyn, rydym wedi cysylltu â’r Gwyrddion, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, y pleidiau wnaeth ymateb yn gadarnhaol i’n maniffesto, gan wahodd eu harweinwyr i wneud araith.

Mae’r brîff wedi’i ehangu i gynnwys meysydd polisi eraill sydd o ddiddordeb i Ynni Cymunedol Cymru.

Dyma’r pwyntiau y gofynwyd i arweinwyr y parti i ymateb iddynt, a chymryd cwestiynau ar ôl:

1. Ymateb i bob un o’r cynigion polisi yn maniffesto YCC fel pecyn o fesurau i’w gyflwyno i lywodraeth nesaf Cymru

2. Amilnellu eu sarbwyntiau a’u pryderon am natur a’r hinsawdd ac esbonio pa fesurau y maent am eu cyflwyno i’r llywodraeth nesaf i wella bioamrywiaeth a gwyrdroi colled rhywogaethau.

3. Esbonio beth y maent am ei wneud i greu’r amgylchiadau i helpu a chefnogi cymunedau i adeiladu a chadw asedau o dan berchnogaeth gymunedol – sut ydynt am gymunedoli Cymru?

Rydym yn gweithio gyda’n haelodaeth i gynnal y digwyddiadau hyn ac i groesawu’r arweinwyr mewn lleoliadau sy’n rhan o’r sector ynni cymunedol, ac o fewn yr etholaethau y byddant yn ymgeiswyr ynddynt fis Mai.

Y Digwyddiadau:

Bydd arweinydd y Blaid Werdd Anthony Slaughter yn siarad yn Bangladesh Centre, Riverside, Cardiff, CF11 6EP. Byddwn hefyd yn clywed gan gynrhychiolwyr o'r Bengal Dragons Foundation, a'u prosiect nhw Gwyrdd Bengla. Mae tocynnau ar gael yma: Areithiau Arweinwyr | Leaders' Speeches Anthony Slaughter Bangladesh Centre Tickets, Thu, Feb 12, 2026 at 6:00 PM | Eventbrite

Bydd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn siarad yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda, LL57 3AD. Byddwn hefyd yn clywed gan mudiad ynni cymunedol lleol Ynni Ogwen. Tocynnau ar gael yma: Areithiau Arweinwyr | Leaders' Speeches Rhun ap Iorwerth Canolfan Cefnfaes Tickets, Wed, Feb 18, 2026 at 6:30 PM | Eventbrite

Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds yn siarad yn Hwb y Gors, Heol y Gors, Cwmgors, Ammanford, SA18 1RF. Byddwn hefyd yn clywed gan aelodau YCC Awel Aman Tawe. Tocynnau ar gael yma: Areithiau Arweinwyr | Leaders' Speeches - Jane Dodds Hwb y Gors Tickets, Thu, Feb 26, 2026 at 6:30 PM | Eventbrite

Mae manylion araith y blaid lafur i'w gadarnhau.

Er mwyn cael gwybodaeth am ddigwyddiadau cyhoeddus YCC, gan gynnwys areithiau’r arweinwyr, ein taith ffilm yn y cymoedd a chynhadledd Ynni Cymunedol y Cymoedd ym Mhontypridd fis Mawrth, tanysgrifiwch i RhanNi – ein mudiad dros ynni cymunedol yma:

https://communityenergy.wales/rhanni

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.