Addysg

Darganfyddwch ragor am ein gwaith addysg ac ymgysylltu

Er mwyn gallu pontio'n gyfiawn wrth i ni ddatgarboneiddio'r system ynni, mae angen i ddinasyddion Cymru cael y wybodaeth a'r addysg ar sut y gall cymunedau gymryd rhan ac arwain.

Mae ynni cymunedol mewn man unigryw i dynnu ynghyd meysydd o amgylch economi, yr amgylchedd a chymuned - gan ddarparu sylfaen gref i'r cwricwlwm Cymreig ac ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd.

Ewch yma os hoffech chi edrych ar restr o adnoddau addysgiadol ar ynni cymunedol.

Mae aelodau Ynni Cymunedol Cymru yn barod yn arwain yn y maes addysg hinsawdd. Mae'r cynllun Rhyfelwyr Ynni sydd wedi'i gefnogi gan EnergySparks a'i arwain gan Egni wedi gweithio gydag ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth a chysylltiad i'r paneli solar wedi'u gosod gan y co-op.

Rydym yn adeiladu banc o adnoddau addysgiadol ar ynni cymunedol, a fydd yn cael ei ddiweddaru'n gyson. Os oes gennych chi adnoddau yr hoffech chi rannu gyda ni, cysylltwch â ni.

Ynghyd â darparu rhaglenni addysgiadol, mae'r sector ynni cymunedol eisiau darganfod dulliau newydd ac arloesol i gysylltu â phobl Cymru Mae GwyrddNi – prosiect wnaeth ddod â chynulliadau hinsawdd yng Ngwynedd at ei gilydd wedi arwain at gynlluniau gweithredu cymunedol dros yr hinsawdd – llwybrau ar gyfer cymunedau i rymuso eu hunain yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.

Rydym yn datblygu ein gwaith addysg ac ymgysylltu drwy weithgor o aelodau ac arbenigwyr yn y maes. Os hoffech chi ymuno, cysylltwch â ni.

GwyrddNi

Cynulliadau Cymunedol sy'n gwedd-newid Gwynedd

View the case Study

Rhyfelwyr Ynni

Ysgogi'r genhedlaeth nesaf i achub y blaned.

View the case Study

Y Stiwdio

Hanes hen garej wnaeth droi'n stiwdio gelf

View the case Study

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.