Rhyfelwyr Ynni

Ysgogi'r genhedlaeth nesaf i achub y blaned.

Mae ‘We Are Energy Warriors’ yn brosiect wedi'i greu gan aelodau Ynni Cymunedol Cymru, Egni Coop i ysgogi ac ysbrydoli cymunedau i weithredu ar newid hinsawdd. Mae Egni wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i osod paneli solar ar doeon adeiladau ysgol, sy'n lleihau biliau ynni ar gyfer ysgolion, ynghyd â darparu incwm i Egni i redeg prosiect ‘We Are Energy Warriors’. Mae codi ymwybyddiaeth yn rhan allweddol o waith Ynni Cymunedol Cymru.

Mae Egni Coop hefyd yn gweithio gydag elusen o'r enw “Sbarc Ynni” sy'n darparu data ar ffurf graff i ysgolion ar ddefnydd ynni eu hadeiladau ac yn eu hysbysu i gamau y gellid eu cymryd i leihau defnydd ynni. Mae'r adnodd yn cael ei gyfieithu i'r Gymraeg ar hyn o bryd ac felly fydd ar gael i bob ysgol cyn bo hir.. https://energysparks.uk/

Rydym yn awyddus i grwpiau sydd â diddordebau tebyg i fod mewn cyswllt â'i gilydd, felly os ydych chi'n grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn materion ynghlwm ag addysg hinsawdd neu ynni adnewyddadwy, ac eisiau cymryd rhan mewn gweminar neu fod yn rhan o weithgor sy'n edrych ar addysg ac ymgysylltu, cysylltwch â ni.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.