GwyrddNi

Cynulliadau Cymunedol sy'n gwedd-newid Gwynedd

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd.

Mae GwyrddNi wedi'i ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol, a'i gyflawni gan DEG, menter cymdeithasol wedi'i leoli yn Ngwynedd a phum sefyliad lleol aral; Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Siop Griffiths yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, ac Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn.

Yn 2022-2023 cynhaliwyd Cynulliadau Cymunedol ar Hinsawdd y y pum ardal hwn. Roedd y cynulliadau'n gyfle i bobl i gasglu ynghyd i drafod, gwrando, rhannu, siarad, dysgu a dewis gyda'i gilydd – fel cymuned – yr hyn maent eisiau ei wneud yn lleol i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GwyrddNi.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.