Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Ein Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol, Leanne Wood, sy'n ymateb i'n Hadroddiad ar Gyflwr y Sector Ynni Cymunedol
Mae'n amhosib adrodd yr stori gyfan gyda rhifau.
Mae Adroddiad Cyflwr y Sector Ynni Cymunedol Cymru’n darparu trosolwg o effaith y sector ynni cymunedol yn nhermau sawl megawatt o ynni sy’n cael ei gynhyrchu, gwerth y budd i gymuedau, nifer y swyddi, yr effaith ar economïau lleol a mwy.
Mae’n darparu astudiaethau achos; mewnwelediadau byr o’r gwaith ysbrydoledig y mae busnesau ynni cymunedol yn ei gyflawni, a’u heffaith ar eu hardaloedd lleol.
Mae hefyd yn amlinellu’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu wrth ehangu’r hyn rydym yn ei wneud.
Mae cymaint yn cael ei gynnig gan ynni cymunedol.
Mae rhaid i ni i gyd ddefnyddio ynni. Ry’n ni’n ei ddefnyddio bob dydd i weithio, cadw’n dwym, teithio, coginio ein bwyd, ymlacio ac i redeg ein busnesau. Mae nifer wedi gweld yr effaith y mae ynni’n ei chael ar ein bywyd o ddydd i ddydd yn dilyn storm Darragh. Mae’n rhan o sut ry’n ni’n byw bob dydd, ac oherwydd hyn, mae’n rhan o’r economi sylfaenol.
Fodd bynnag, ry’n ni’n talu gymaint yn fwy am ein hegni nag sydd angen, ac mae’r cynnydd mewn biliau ynni’n ddiweddar wedi bod yn sgandal llwyr.
Mae cymaint o’r elw o’n hynni’n gadael yr ardaloedd lle mae’n cael ei gynhyrchu. Mae’n cael ei echdynnu o’r cymunedau hyn. Yn aml mae’n gadael Cymru hyd yn oed, ac yn cronni yn nwylo nifer fechan o gorfforaethau rhyngwladol.
Does dim angen i bethau fod fel hyn.
Mae cymaint o’r elw o’n hynni’n gadael yr ardaloedd lle mae’n cael ei gynhyrchu. Mae’n cael ei echdynnu o’r cymunedau hyn. Yn aml mae’n gadael Cymru hyd yn oed, ac yn cronni yn nwylo nifer fechan o gorfforaethau rhyngwladol.
Mae ynni cymunedol yn weithgaredd nid-er-elw, mae hefyd yn cynnig cymaint yn fwy nag elw yn unig. Drwy berchen, neu hyd yn oed cyd-berchen asedau seilwaith ynni, mae cymunedau’n cael sicrwydd o incwm hirdymor i ariannu blaenoriaethau lleol (yn aml gwasanaethau sydd wedi cael eu torri oherwydd llymder, fel y celfyddydau neu welliannau amgylcheddol). Mae cymunedau’n cael dewis yn ddemocrataidd ar y blaenoriaethau hynny, gan mai nhw sy’n rheoli’r asedau. Mae’n creu ymreolaeth a rhyddid!
Pe bai modd tyfu ynni cymunedol i gynnwys pob cymuned, nid yn unig y byddai modd i bobl wrthsefyll effeithiau gwaethaf tynhau’r pwrs cyhoeddus, ond byddwn hefyd yn gweld gwelliant mewn dygnwch ynni, ac o bosib gostyngiad sylweddol mewn biliau ynni.
Un dull o gyflawni hyn fyddai drwy fasnachu ynni lleol – lle mae grwpiau lleol neu gymunedol yn gallu gwerthu’r ynni maent yn ei gynhyrchu o fewn ardal isorsaf. Mae hyn yn lleihau costau ynghyd â phwysau ar y rhwydwaith dosbarthu.
Ry’n ni’n dadlau dros fasnachu lleol yn ein hadroddiad Cyflwr y Sector, ac ry’n ni’n amlinellu’r newidiadau angenrheidiol er mwyn ei alluogi i ddigwydd.
Rydym hefyd yn nodi’r hyn sydd angen digwydd yng Nghymru. Yn fras, mae angen deddfwriaeth ynni newydd i Gymru.
Gall ynni cymunedol hefyd oresgyn gwrthwynebiad lleol i isadeiledd ynni newydd – gan fod pobl yn fwy tebygol o gefnogi rhywbeth sydd o fudd iddyn nhw ac yn eu grymuso yn uniongyrchol. Mae modd darllen mwy am hyn yma: Y Gymuned yw e, Twpsyn.
Bydd ein hadroddiad yn cael ei rannu ar ein gwefan ddydd Mawrth 10 Rhagfyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ynni cymunedol, perchnogaeth gymunedol, neu adeiladu cymunedol, mae’n werth ei ddarllen.