Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Ein Rheolwr Datblygiad Busnes Mark Hooper a'n Swyddog Rhwydwaith Addysg Ynni Lydia Godden sy'n ymateb i adroddiad diweddar y National Energy Service Operator gan amlinellu ein gweledigaeth ni ar gyfer dyfodol y system ynni yng Nghymru.
Fe wnaeth y National Energy Service Operator (NESO) gyhoeddi adroddiad sylweddol yn ddiweddar oedd, yn ei hanfod, yn dweud bod hi’n ‘bosib’ i Brydain gyrraedd ‘Ynni Glân’ erbyn 2030. 84 tudalen o obaith, her a llond trol o amodau a throed-nodiadau. Dyma oedd Ed Miliband, y Gweinidog Ynni yn San Steffan ei angen – trywydd glir at ynni glân erbyn 2030; cydnabyddiaeth nad yw’r llwybr yn un hawdd; ac, uwchlaw popeth arall, dealltwriaeth fod hyn angen bod yn ymgyrch ar y cyd – mae angen sicrhau fod pawb yn rhan ohoni.
Newyddion da, does bosib? Mae gennym ni drywydd i leihau ein dibyniaeth ar gynhyrchu ynni drwy danwyddau ffosil. Tipyn i feddwl amdano a dim amser i’w wastraffu. Rhoddodd yr amodau a’r troed-nodiadau dipyn i ni fyfyrio arnynt – er enghraifft, yr angen i wthio dwy waith yn fwy o brosiectau ynni drwy’r system gynllunio dros y pum mlynedd nesaf o gymharu â’r deng mlynedd blaenorol – rhywbeth sy’n gofyn am dwf anferthol mewn capasiti a’r gallu i wireddu prosiectau; her go iawn.
Ond dim ond ychydig o linellau a roddwyd i un o’r amodau mwyaf arwyddocaol yn yr adroddiad: y cysyniad o gydsynio cymunedol. Nid ein bod ni wedi ein synnu gan hyn: doeddwn ni ddim – wedi’r cyfan mae wedi dechrau dod yn eliffant yn yr ystafell – boed yn beilonau’n croesi cefn gwlad neu dyrbinau gwynt yn agos at ein cartrefi, mae nifer o’r rheini mewn grym yn ymddangos fel nad ydynt yn gallu deall y syniad nad yw pawb yn cyd-gerdded â ni ar y llwybr hon at ddyfodol gwyrddach.
Y tu hwn i’r bybl ynni adnewyddadwy, mae yna fybl arall, wedi’i ffurfio o rwystredigaeth a dadrithiad – ac mae’n tyfu. Mae lleiafrif cynyddol lafar yn gwylio’r broses o ‘bontio’n deg at sero net’ o safbwynt gyfan gwbl wahanol. Nid yw hyn oherwydd nad ydynt yn poeni, nid ydynt chwaith yn bobl sydd heb ddeall heriau newid hinsawdd, a dylem fod yn ofalus rhag disgrifio’r bobl hyn fel rhai sydd ddim yn ymwneud â sero net hefyd. Maent yn ymwneud â’r her, ond yn gwrthod y datrysiadau presennol sy’n cael eu cynnig. Maent hefyd wedi dechrau trefnu.
Mae ymadroddion fel ‘cymryd cymunedau gyda ni’ wedi dechrau teimlo’n wag ar y gorau, ac yn nawddoglyd fel arall. Nid oes pwynt anwybyddu’r realiti hwn y mae pob un ohonom sy’n gweithio o fewn ynni adnewyddadwy yn eu hwynebu. Yn lle, gadewch i ni ei wynebu.
Iawn, ry’n ni’n eich clywed chi’n dweud, ‘lleiafrif ydyn nhw’ – mae’r arolygon barn wedi dangos yn gyson fod yna gefnogaeth gyhoeddus ar gyfer pontio at ynni glân a bod y cyhoedd yn deall goblygiadau’r newid hwn, ond nid yw hyn yn golygu nad ydynt yn gallu cael eu dylanwadu gan naratifau’r lleiafrif; yn enwedig pan fo rhai o’r heriau’n ymwneud â pha mor deg yw’r newid at gymdeithas di-garbon. Nid yw’r heriau hyn yn cael eu hateb ar hyn o bryd.
Os ydyn ni’n wirioneddol o ddifrif am ymadroddion fel ‘pontio’n deg’, mae gan ynni cymunedol ran ganolog i’w chwarae.
Mae pobl yn gwybod drwy eu profiadau, ac yn gallu dangos drwy dystiolaeth, sut y mae buddion ariannol datgarboneiddio’r system ynni yn rhedeg yn uniongyrchol i fuddsoddwyr filltiroedd i ffwrdd o’r cymunedau sydd agosaf i’r ased ynni. Nid oes modd “cymuned-galchu” y natur echdynnol hon – wedi’r cyfan, yng Nghymru, ry’n ni wedi arfer â phrofi’r echdynnu hwn – mae’n rhan o’n profiad cenedlaethol.
Er mwyn cau pen y mwdwl – mae perchnogaeth yn bwysig. Os ydyn ni’n wirioneddol o ddifrif am ymadroddion fel ‘pontio’n deg’, mae gan ynni cymunedol ran ganolog i’w chwarae. Po fwyaf o ddatrysiadau sy’n cael eu creu, eu hariannu, eu datblygu, eu rheoli a’u perchnogi yma, y mwyaf cadarn a pharod ydym ni i addasu i’r hyn sy’n llechu rownd y gornel – y pethau na fedrwn ni eu rhagweld.
Mae gennym gyfle sy’n prysur diflannu i afael yn ynni glân, ac ry’n ni’n cytuno gyda NESO nad oes amser i’w wastraffu. Ond nid yw treulio amser gyda chymunedau’n wastraff amser. I’r gwrthwyneb, mae’n ddyletswydd arnom ni gyd i ymwneud â’r rhai nad ydyn ni’n cytuno â nhw, a gwneud yn well: nid dim ond ymgynghori, neu gynllunio neu wrando’n well, ond GWNEUD yn well. Does bosib mai’r moddion i’r gwrthwynebiad cynyddol drefnus yw datblygu capasiti a chred fydd yn gyrru prosiectau cymunedol yn ei blaenau, lle mae’r berchnogaeth a’r holl fuddion yn aros yn nwylo lleol, democrataidd?
Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi ymrwymo i fod yn rhan o ddyfodol ynni glân. Mae ein haelodau’n gwneud hynny a mwy; yn gweithredu i ddatblygu capasiti cynhyrchu o brosiectau gwynt, solar a hydro ledled y wlad. Mae’r cynlluniau hyn yn helpu pweru anghenion cymunedau, yn cadw elw’n lleol ac yn cyflawni buddion ar raddfa a ddylai godi embaras ar rai o’r datblygwyr ynni masnachol mawr. Mae angen rhagor o brosiectau arnom ni, o ragor o grwpiau cymunedol, mewn rhagor o ardaloedd o Gymru, ac mae angen gwneud hyn nawr.
Mae’n rhaid i gymunedau berchen ar eu dyfodol eu hunain a chwarae rôl weithredol yn yr hyn sy’n digwydd nesaf. Mae angen i bobl gael eu clywed, ar eu telerau nhw, yn eu cymunedau, a gweld bod eu pryderon yn cael eu hateb.
Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, y peth cyntaf y mae angen i ni ei wneud yw cydnabod y gwirionedd fod nifer o gymunedau wedi cael eu hanwybyddu a’u hanghofio am yn rhy hir – mae eisiau dechrau gydag ychydig o wyleidd-dra a sicrhau ein bod yn ei gadw wrth fynd ymlaen. Mae’n rhaid i gymunedau berchen ar eu dyfodol eu hunain a chwarae rôl weithredol yn yr hyn sy’n digwydd nesaf. Mae angen i bobl gael eu clywed, ar eu telerau nhw, yn eu cymunedau, a gweld bod eu pryderon yn cael eu hateb. Ry’n ni yn Ynni Cymunedol Cymru’n barod i ymgymryd â’r her ac yn datblygu ein sgiliau i gefnogi’r cymunedau ry’n ni’n eu gwasanaethu. Ry’n ni’n gwybod na fydd hyn yn hawdd; ymhell ohoni, ond mae’n angenrheidiol ac yn amserol. Ar ben hyn oll, os na fyddwn ni’n gwneud hyn, ni fydd NESO’n cyrraedd ei dargedau erbyn 2030 – canlyniad nad yw neb o fewn ein diwydiant eisiau ei weld.
Gadewch i ni newid natur y drafodaeth – gwrthod y naratifau pregethlyd ry’n ni wedi eu harfer gyda nhw – ac yn lle hynny, gadewch i ni gefnogi pobl Cymru i arwain y ffordd at ddyfodol gwell i’n hynni.
Ymlaen!
-
Os ydych chi am gefnogi ynni cymunedol, ystyriwch ymuno â RhanNi - y mudiad dros ynni cymunedol.
Cadwch lygad ar gyfer ein hadroddiad Cyflwr y Sector, adroddiad blynyddol sy'n lansio ym mis Rhagfyr, ac yn dangos y datblygiadau diweddaraf o fewn ynni cymunedol.
Ymunwch â sefydliad ynni cymunedol lleol, neu dechreuwch un eich hunain. Gall Ynni Cymunedol Cymru eich helpu chi â hyn.
Ystyriwch ddod i'n cynhadledd, lle fyddwch yn gallu cwrdd ag ymarferwyr ynni cymunedol.