Systemau Ynni Lleol - Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ar gyfer systemau ynni lleol, a'u potensial ar gyfer cymunedau Cymru.

Published: 14.11.2024 ( 6 days ago )

Gwahoddwyd Ynni Cymunedol Cymru i gymryd rhan mewn panel gan Ynni Cymru ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru y Senedd. Y pwnc o dan sylw oedd Systemau Ynni Lleol Clyfar a sut fedrith ynni lleol arbed arian, gwella dygnwch, lleihau pwysau ar y rhwdwaith trawsyrru trydan a helpu cymunedau.

Aeth Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol Ynni Cymunedol Cymru Leanne Wood i siarad ar y panel ynghyd â Jeff Hardy o Ynni Cymru a’r Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd.

Siaradodd Jeff Hardy am y newidiadau y gallwn ni ddisgwyl eu gweld o ganlyniad i sefyllfa’r hinsawdd yn gwaethygu dros y blynyddoedd nesaf a’r rhwystrau sy’n atal twf systemau ynni lleol clyfar, ynghyd â’r effaith gall y systemau hyn ei chael ar ddygnwch ynni a’r grid yn gyffredinol.

Siaradodd Calvin Jones am y cyfleoedd macro a micro economaidd sy’n gallu codi o Systemau Ynni Lleol Clyfar.

O safbwynt Ynni Cymunedol Cymru, mae creu marchnadoedd ynni lleol yn flaenoriaeth. Credwn y byddai mwy o gefnogaeth gyhoeddus ar gyfer isadeiledd ynni pe bai rhagor o berchnogaeth gymunedol drosto a phe bai pobl yn gallu gweld gostyngiad yn eu biliau os ydynt yn byw’n agos ato.

Mae YCC wedi cefnogi ymgyrch Power4People wnaeth geisio dod â newid i’r gyfraith yn ystod y llywodraeth ddiwethaf yn San Steffan i alluogi masnachu ynni lleol. Yn anffodus nid oedd yr ymgyrch yn llwyddiannus.

Oherwydd yr argyfwng costau byw, mae costau ynni yn gwestiwn allweddol pan ddaw at gefnogaeth neu wrthwynebiad cyhoeddus ar gyfer y newidiadau rydym yn eu gweld wrth i ni newid i economi ag allyriadau llai. Mae’r Deyrnas Gyfunol ymhlith un o’r gwledydd mwyaf cyfoethog yn y byd, ond roedd 45% o bobl yng Nghymru’n byw mewn tlodi tanwydd y llynedd.

Mae Marchnadoedd Ynni Lleol yn ddatrysiad posib ar gyfer y toreth o heriau sydd o’m blaenau:

  • Mae gwrthwynebiad cyhoeddus, rhwystrau sylweddol, a chostau’n golygu nad ydyn ni’n gallu dibynnu ar gynhyrchu ar raddfa fawr a llinellau trawsyrru newydd yn gyfan gwbl. Mae prosiectau ynni bach, o dan berchnogaeth leol yn boblogaidd, a bydd modd gwneud y gorau ohonynt drwy farchnadoedd ynni lleol.
  • Wrth weithio gyda awdurdodau lleol, bydd modd i gymunedau adeiladu marchnadoedd ynni lleol sy’n cynnwys gwres, gwefru ceir trydan, a chynhyrchu ynni, ac felly’n cyrraedd ein hangenion ynni yn y dyfodol yn lleol.
  • Mae datblygu marchnadoedd ynni lleol sy’n annog pobl i ddefnyddio ynni lleol tra ei fod yn cael ei gynhyrchu yn golygu ein bod ni’n dibynnu’n llai ar wifrau trawsyrru (peilonau a llinellau tanddaearol), gan fod ein defnydd o’r grid yn llawer mwy effeithlon.
  • Mae marchnadoedd ynni lleol yn golygu biliau ynni rhatach i ddefnyddwyr ynni a rhagor o arian i gynhyrchwyr ynni. Byddai’n arwain at newid sylweddol i bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd.
  • Mae defnydd ynni a chynhyrchu ynni wedi’u cysylltu o fewn marchnad ynni lleol – sy’n golygu ein bod ni’n llai dibynnol ar ffynnonellau ynni allanol megis nwy, ac yn llai agored i gael ysgytwad gan natur anwadal y farchnad ynni ryngwladol.
  • Mae marchnad leol yn galluogi cynhyrchwyr ar raddfa lai i gael model busnes hyfyw, sy’n golygu bod cymunedau yn gallu datblygu a pherchnogi eu prosiectau ynni eu hunain.
  • Bydd angen i nifer o brosiectau ynni hŷn sy’n ddibynnol ar y tariff cyflenwi gael eu hailbweru cyn bo hir, mewn tirwedd ynni sy’n gyfangwbl wahanol i’r un y datblgwyd nhw ynddi’n wreiddiol. Mae capasiti’r grid ac isadeiledd mewn perygl o gael eu gwastraffu os nad ydyn ni’n ailbweru’r prosiectau hyn. Byddai marchnad ynni leol yn darparu model busnes hyfyw ar gyfer eu hailbweru.

Heb gefnogi marchnadoedd ynni lleol a mynd i’r afael â’r rhwystrau presennol, bydd hi’n anodd iawn i’r llywodraeth gyrraedd eu targedau hinsawdd. Gyda marchnadoedd ynni lleol fodd bynnag, bydd y sector cymunedol yn gallu mynd y tu hwnt i’r targedau lleol, ynghyd â gwella bywydau pobl mewn ffordd ystyrlon.

Am beth ydyn ni’n aros?

-

Os ydych chi am gefnogi ac adeiladu Marchnadoedd Ynni Lleol, ystyriwch ymuno â RhanNi - y mudiad dros ynni cymunedol.

Cadwch lygad ar gyfer ein hadroddiad Cyflwr y Sector, adroddiad blynyddol sy'n lansio ym mis Rhagfyr, ac yn dangos y datblygiadau diweddaraf o fewn ynni cymunedol.

Ymunwch â sefydliad ynni cymunedol lleol, neu dechreuwch un eich hunain. Gall Ynni Cymunedol Cymru eich helpu chi â hyn.

Ystyriwch ddod i'n cynhadledd, lle fyddwch yn gallu cwrdd ag ymarferwyr ynni cymunedol.

Gallwch hefyd gefnogi Power4People, sy'n arwain yr ymgyrch ar gyfer newid deddfwriaethol ar gyfer ynni cymunedol.

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.