Does dim byd llawer mwy calonogol na bwyta’n dda gyda phobl newydd sy’n rhannu’r un anian â chi.
Dyna’n union wnaeth tîm Ynni Cymunedol Cymru ar ein hymweliad â CARE – Cwm Arian Renewable Energy, sydd â’u canolfan yn Nhegryn, Sir Benfro.
Mae rhannu bwyd yn cysylltu pobl yn syth. Lleolir y ganolfan yn Nhegryn, pentref bychan yng ngogledd Sir Benfro. Ardal fyddai’n debygol o gael ei adael heb unrhyw gyfleusterau cymunedol oni bai am fwrlwm a gweithgarwch ysector ynni cymunedol a gwirfoddolwyr eraill. Pob mis mae’r staff ac unrhyw ymwelwyr i CARE yn ymgynnull yno, gan ddod â phlât o fwyd i’w rannu.
Daeth Daniel, un o sylfaenwyr CARE, â thorth wedi ei bobi gartref gyda blawd o’r felin yn Llandudoch gerllaw. Roedd yn arbennig, fel yr holl brofiad.
Cawsom drosolwg o’r prosiect gan Holly a Daniel sydd ill dau wedi bod yn ymwneud â CARE ers ei sefydlu tua deng mlynedd yn ôl.
Ar ôl dyfalbarhau i geisio adeiladu tyrbin gwynt, death caniatâd o’r diwedd i’w osod yn 2019. Gall eu prosiectau nawr edrych ymlaen at incwm cyson a rhywfaint o ddiogelwch ariannol. Maent wedi gallu ei defnyddio’r diogelwch yma fel trosoledd i greu pob math o fuddion cymunedol. Mae CARE yn cyflogi deuddeg aelod o staff, sy’n rhannu bws-mini trydan (sydd ar fenthyg gan gymdeithas trafnidiaeth gymunedol Dolen Teifi), wedi datblygu hwb creadigol cynaliadwy – Y Stiwdio – a’n cynnal pob math o weithgareddau sy’n gwella’r amgylchedd – fel plannu coed a gwrychoedd a chynlluniau bwyd lleol. Mae gan Ynni Cymunedol Cymru a’n partner TrydanNi gynlluniau hefyd i CARE fod yn beilot ar gyfer ein cynllun clybiau ceir trydan newydd.
Aeth y pum aelod o’n tîm ynghyd â Holly a Daniel o Degryn i Hermon yn y bws mini trydan lle daeth Emma, yr artist preswyl a chydlynydd y gofod celf gymunedol anhygoel, Y Stiwdio, i gwrdd â ni.
Eglurodd Emma sut y bu’r adeilad yn garej adfeiliedig, ond cafodd ei brynu a’i ailadeiladu gan ddefnyddio hemp-crit – deunydd adeiladu cynaliadwy sy’n cael ei wneud o ffibr cywarch a chalch, a’n gweithio fel concrit. Dysgodd gwirfoddolwyr lleol sgiliau newydd wrth osod y hemp-crit a rendrad calch ar y waliau eu hunain.
Mae’r ffrâm bren sy’n dal y to i fyny’n edrych fel canghennau coed hardd. Maent wedi’u gwneud o goed llarwydd, gan Tŷ Pren, busnes lleol arall.
Mae’r hemp-crit yn darparu lefel uchel o insiwleiddio i’r adeilad. Mae hyn wedi ei baru â phwmp gwres, wedi’i ategu gan y system pv ar y to a storfa batri, yn golygu bod yr adeilad yn eithriadol o effeithlon a’r ôl troed carbon yn isel iawn o’i gymharu ag adeiladau wedi eu gwneud o ddeunyddiau mwy confensiynol.
Mae Emma yn awyddus i ddod ag artistiaid a chrewyr i mewn a all, trwy brosiectau a digwyddiadau artistig, helpu pobl i leihau eu hôl troed hyd yn oed ymhellach.
Mae’r holl weithgarwch hwn wedi’i wneud yn bosibl gan y grŵp bach hwn o bobl benderfynol a’u dycnwch i gael y tyrbin gwynt yn eu cymuned. Mae ganddyn nhw uchelgeisiau i ddatblygu mwy o ynni adnewyddadwy a mwy o brosiectau sy’n galluogi pobl i fyw’n wyrddach.
Fel sy’n digwydd yn aml, bu’n rhaid i gwmni Cwm Arian Renewable Energy gyfaddawdu ar eu cynlluniau er mwyn cael caniatâd cynllunio. Nid yw eu tyrbin gwynt y mwyaf effeithlon y gallai bod ar eu safle. Mae’n fyrrach na’r bwriad er mwyn lleihau’r effaith weledol.
Mae gan y tîm yn CARE uchelgais i ddatblygu’r safle ymhellach. Mae ganddyn nhw eisoes ganiatâd cynllunio ar gyfer gosodiad solar 522kW, ond mae costau gosod yn uchel oherwydd galw y cyflenwad yn y farchnad. Bydden nhw wrth eu boddau yn gallu cyflenwi’r trydan maen nhw’n ei gynhyrchu i’r gymuned leol a busnesau hefyd. Nid yw’r system sydd gennym yn gwneud hyn yn hawdd, ond mae cynlluniau CARE yn gosod gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwydn drwy berchnogaeth gymunedol a hunangynhaliaeth ynni – o bosibl y polisi yswiriant gorau y gall cymuned ei gael ar gyfer y dyfodol.