Mae ‘Ymladdwyr Ynni’ yn brosiect sydd wedi’i greu gan aelodau Ynni Cymunedol Cymru i ysgogi disgyblion ysgol i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae Egni wedi bod yn gweithio gydag ysgolion i osod paneli solar ar doeon adeiladau, sy’n lleihau biliau ynni ar gyfer yr ysgol, ynghyd â darparu incwm i Egni redeg y prosiect ‘Ymladdwyr Ynni’. Mae codi ymwybyddiaeth yn rhan mawr o waith aelodau Ynni Cymunedol Cymru.
Fel rhan o’r prosiect hwnnw, ac i gydfynd gyda chynhadledd COP27 yn yr Aifft, lle mae plant y byd yn cwrdd am y tro cyntaf, mae Egni wedi bod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau dros y we i drafod materion ynghylch yr hinsawdd gyda’r ysgolion maent yn gweithio â nhw. Ymunodd pedair ysgol â’r alwad - Lamphey, Llanmartin, Penyrheol a Saundersfoot, gan wrando ar gwrs ac ateb atebion am ynni cymunedol a’r gweithredu lleol roeddent yn gallu gwneud. Gwnaeth dwy ysgol arall gymryd rhan ond methu bod yn rhan o’r sesiwn adborth - Alway Primary ac Ysgol Bro Ingli.
Roedd gan y disgyblion lefel uchel o ddealltwriaeth ynghylch y niwed sy’n cael ei achosi gan danwyddau ffosil a pham rydym angen gorffen defnyddio oil, glo a nwy fel tanwydd. Maent hefyd yn gwybod am sut i gadw ynni drwy ddiffodd goleuadau, lleihau’r gwres a gwisgod dillad cynnes, gwaredu drafftiau a drwy gerdded a seiclo’n fwy aml.
Rhoddwyd gyflwyniadau ysbrydoledig gan Eloise Laity o Dîm Lleihau Carbon Cyngor Casnewydd ac Elouise Crtichley o Egni Coop yn ogystal.
Fel rhan o’r cynllun, anogwyd y disgyblion i feddwl am eu neges nhw i’r sawl sy’n COP27 drwy greu cerdiau post a llythyrau.
Dyma rhai o'r negeseuon hynny:
“Cymerwch y grym oddi wrth y cewri ynni mawr sy’n dylanwadu ar wleidyddiaeth”
“Gwnewch hi’n anghyfreithlon i losgi tanwyddau ffosil”
“Dyw hi ddim yn rhy hwyr - BYD NI”
“Dylai pob person ar y blaned blannu coeden”
“Cerddwch i’r ysgol – mae’n rhyfeddol”
“Rhaid i ni drin natur fel ffrind”
“The world is big but we are small, if we work together we can save it all”
“Cer ymlaen”
Gwnaeth Egni Coop hefyd weithio gyda elusen o’r enw “Energy Sparks” sy’n darparu data mewn ffurf graff i ysgolion sy’n cymryd rhan ar ddefnydd ynni ei adeilad ysgol ac yn eu hysbysu o’r camau gallai cael eu cymryd i leihau defnydd ynni. Mae’r adnodd hwn yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg ac felly bydd ar gael cyn bo hir. https://energysparks.uk/
Rydym yn awyddus i grwpiau sydd â diddordebau amrywiol i fod mewn cyswllt â’i gilydd a rhannu profiadau a gwybodaeth, felly os ydych chi’n grŵp ynni cymunedol sydd â diddordeb mewn materion ynghlwm â’r hinsawdd neu addysg ynni adnewyddadwy, ac hoffech chi gymryd rhan mewn gweminar sy’n trafod hyn, neu’n rhan o bwyllgor gwaith newydd sy’n edrych ar addysg ac ymgysylltu, cysylltwch â ni.