Lansio Cartrefi Clyd

Cyrchfan arbed ynni - Holl gyngor arbed ynni i berchnogion cartrefi ar un wefan

Published: 11.09.2023 ( a year ago )

Mae gwefan newydd sy’n cynnig cyngor ynni cartref wedi cael ei lansio gan Ynni Cymunedol Cymru.

Mae Ynni Cymunedol Cymru’n gorff ymbarél ar gyfer grwpiau ynni cymunedol.

Mae’r wefan newydd – www.cartreficlyd.cymru yn darparu map o fudiadau ynni cymunedol sy’n darparu gwasanaeth, cyngor a chymorth. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gymorth lleol ynghyd â chymorth cenedlaethol, yn esbonio sut i ddarganfod gosodwyr, ac yn amlinellu’r gwelliannau fyddai o fudd i gartrefi amrywiol.

Dywedodd Leanne Wood, Cyd-gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru “Mae torri defnydd ynni cartref i lawr yn hollbwysig er mwyn lleihau biliau. Mae’r argyfwng costau byw sydd wedi ysgogi gan ynni yn meddwl bod angen dybryd i leihau allyriadau sy’n ychwanegu at newid hinsawdd. Y datrysiad ar gyfer yr argyfyngau hyn yw i wneud ein tai yn fwy effeithlon o ran ynni.

“Yr hyn sydd wedi bod ar goll yng Nghymru yw cyrchfan y gall pobl ymddyried ynddi, a chael cyngor ynni cartref. Mae aelodau Ynni Cymunedol Cymru wedi cydweithio i greu adnodd fydd yn ddefnyddiol i bobl.”

Cefnogwyd y wefan drwy gynllun “Gyda’n Gilydd ar gyfer Ein Planed“ Cronfa Gymunedol y Loteri. Derbyniwyd yr arian i adeiladu gwefan oedd yn darparu cyngor ôl-osod, fel rhan o uchelgais ehangach Ynni Cymunedol Cymru i gyflymu ôl-osod yng Nghymru.

Dywedodd Jeremy Thorp, cadeirydd Gweithgor Effeithlonrwydd Ynni gydag Ynni Cymunedol Cymru “Mae pobl yn ymatal rhag ôl-osod eu cartrefi gan ei bod hi’n anodd i ddarganfod cymorth gonest. Mae nifer o gynlluniau sydd wedi’u harwain gan gymunedau yn darparu’r cyngor hwn heddiw. Ein bwriad yw i hyrwyddo’r cyngor lleol hwn pan fo’n bosib, ac os ydych chi’n ymwybodol o gynllun cyngor lleol nad yw wedi’i restru eto, cysylltwch â ni i ehangu’r rhwydwaith.”

Mae’n bosib canfod archwiliadau manwl o dai ar y wefan yn ogystal, sy’n cynnig mewnwelediad i’r math o gyngor sy’n berthnasol i chi os ydych chi’n byw mewn tŷ tebyg (e.e. tai teras Fictorianaidd).

Bydd rhagor o gynnwys yn cael ei ychwanegu dros yr wythnosau nesaf, cysylltwch â ni i gynnig pynciau y gallwn tynnu sylw atynt, a pha cynnwys hoffech chi weld ar y wefan.

www.cartreficlyd.cymru

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.