Leanne yn Ymweld - Ynni Padarn Peris

Darllenwch am ymweliad Leanne ag un o'n haelodau, Ynni Padarn Peris.

Published: 10.09.2023 ( 10 months ago )

Mae’n anodd dychmygu lleoliad mwy hynod a hardd ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy. Yng nghanol yr Wyddfa a’i chriw, mae cwt pren, syml yn sefyll sy’n gartref i dyrbin hydro.

Yno, ar gyrion pentref Llanberis, fe wnaeth ein cyd-gyfarwyddwr gweithredol Leanne Wood gwrdd â Paula a Keith a llond dwrn o aelodau eraill Ynni Padarn Peris.

Ffurfiodd y grŵp i ddatblygu cynllun hydro bychan ar yr Afon Goch. Gosodwyd y cynllun yn 2016, yn dilyn lansio cynnig cyfranddaliadau cymunedol llwyddiannus.

Daeth y llafur er mwyn adeiladu’r tyrbin o’r ardal leol, ynghyd â’r defnyddiau.

Agorwyd y tyrbin yn swyddogol yn 2017, ar yr un adeg ag Ynni Ogwen, sefydliad y maent yn gweithio’n agos â nhw drwy CydYnni – consortiwm ynni sydd wedi’i sefydlu gan dri grŵp ynni cymunedol yng ngogledd-gorllewin Cymru sy’n agos at ei gilydd.

Mae Ynni Padarn Peris wedi bod yn talu llog o 3% yn gyson i’w haelodau ers iddyn nhw ddechrau cynhyrchu ynni yn 2017. Mae’r ynni maent yn ei gynhyrchu yn dibynnnu ar law a chyfnodau sych.

Sefydlwyd Elusen Dyffryn Peris yn 2019 i ddosbarthu refeniw ychwanegol (oedd tua £20k ar gyfer y ddwy flynedd gyntaf rhwng 2017 a 2019) ar gyfer prosiectau amgylcheddol lleol sydd o fudd i’r gymuned leol.

Mae’r grŵp hefyd yn gweithio gyda Thîm Achub Mynydd Llanberis sy’n gwneud gwaith hollbwysig yn achub bywydau yn yr ardal. Mae’r Tîm Achub wedi gosod erial ar gwt y tyrbin hydro, gan ddefnyddio’r systemau electronig yno i alluogi eu system radio digidol fod yn fwy effeithiol.

Mae’r grŵp yn gobeithio datblygu cynllun hydro arall yn y dyfodol agos. Mae Elusen Dyffryn Peris yn croesawu ceisiadau am gyllid, felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwaith cymunedol neu amgylcheddol yn ardal Llanberis, cysylltwch â nhw yma Elusen Dyffryn Peris

Gallwch gysylltu ag Ynni Padarn Peris am sgwrs anffurfiol yma: Ynni Padarn Peris

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.