Leanne yn ymweld - Ynni Ogwen

Darllenwch am ymweliad Leanne ag un o'n haelodau, Ynni Ogwen.

Published: 09.09.2023 ( 10 months ago )

Os ydych chi eisiau cael eich ysbrydoli, does dim angen edrych ymhellach na’r gwaith y mae grŵp bach o ddinasyddion ymroddedig yn ei gyflawni ym Methesda o dan faner Ynni Ogwen a Phartneriaeth Ogwen.

Aeth ein cyd-gyfarwyddwr gweithredol newydd, Leanne Wood, yno yn ddiweddar i ddysgu mwy am eu gwaith.

Sefydlwyd Partneriaeth Ogwen gan 3 cyngor cymunedol yn 2013 i ddatblygu proseictau adnewyddu yng nghymunedau’r chwareli yn Nyffryn Ogwen. Yn 2014-15, nhw wnaeth arwain ar ddatblygu prosiect hydro cymunedol, sef Ynni Ogwen. Codwyd cannoedd ar filoedd o bunnoedd drwy gynnig cyfranddaliadau a gosodwyd y tyrbin hydro bychan ar afon Ogwen, yn agos at leoliad cynllun hydro blaenorol. Mae’r lleoliad yn hardd ofnadwy.

Bellach, mae’r elw o’r cynllun hydro’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu mentrau cymunedol eraill. Mae Partneriaeth Ogwen yn eiddo ar nifer o adeiladu – siopau sydd yn cael eu gosod i fudiadau cymunedol eraill, a fflatiau uwchlaw sy’n cael eu rhentu i bobl leol sy’n ei gweld hi’n anodd cael mynediad at y farchnad dai. Un o’r siopau yw ‘Pantri Pesda’ sy’n ailgylchu’r bwyd mae archfarchnadoedd methu eu gwerthu a byddai fel arall yn mynd i wastraff. Mae sesiynau cyngor arbed ynni ac effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnal yno hefyd.

Ar fy ymweliad i Fethesda, cefais weld Canolfan Cefnfaes – adeilad cyn-ysgol sydd ar les i Bartneriaeth Ogwen gan y cyngor. Bydd y Bartneriaeth yn ei rhedeg fel canolfan gymunedol, ac yn cadw eu llu o geir trydan cymunedol yno hefyd. Mae’r ysgol drws nesaf i’r llyfrgell, ased arall i’r gymuned, lle mae Partneriaeth Ogwen wedi gwneud nifer o welliannau amgylcheddol i’r adeilad, gan gynnwys gosod pwynt gwefru trydan a gweithio gydag Ynni Ogwen i osod paneli solar ar y to.

Ynghyd â’r llyfrgell, mae Ynni Ogwen hefyd wedi cydweithio gyda mudiadau cymunedol eraill a chlybiau chwaraeon er mwyn gosod paneli solar ar doeon, ac maent yn gobeithio cydweithio gyda Cyngor Sir Gwynedd i osod paneli solar ar adeiladau cyhoeddus yn yr ardal. Gall hyn leihau costau ynni i gyrff cyhoeddus yn sylweddol.

Mae’r cynydd anferthol mewn prisiau ynni sydd wedi dod gyda chodiad mewn prisiau nwy yn golygu bod refeniw ychwanegol Ynni Ogwen yn fwy na’r disgwyl eleni. Er mwyn ailddosbarthu’r cyfoeth, maent yn ystyried sut fedrith yr arian ychwanegol hyn cael ei ddefnyddio i genfogi aelodau’r gymuned sydd â’r risg uchaf o dlodi tanwydd. Un o’r opsiynau maent yn eu hystyried yw darparu talebau trydan i’r rhai ar fesuryddion talu ymlaen llaw drwy ‘fanc ynni’ – sy’n gyfwerth â banc bwyd ar gyfer ynni – ynghyd â phrynu poptai pwyll (slow cookers), gyda Y Pantri er mwyn darparu ar gyfer y rhai sy’n gweld costau coginio yn anodd ar hyn o bryd. Maent yn gwybod mai ymateb dros dro yw hyn ar gyfer anghyfiawnder ynni gwaelodol, ond yn ymateb angenrheidiol serch hyn.

Mae cyflenwi eu cymuned leol yn uniongyrchol wedi bod yn uchelgais i Ynni Ogwen erioed. Mae’r model Ynni Lleol wedi bod yn gweithredu ym Methesda ers 4 mlynedd ond mae’r cynllun hwnnw’n defnyddio trydan o gynllun hydro arall lleol yn hytrach na thyrbin Ynni Ogwen. Mae’r cynllun Ynni Lleol yn cynnig tariff cymdeithasol lleol is i bobl ym Methesda sy’n defnyddio eu trydan tra bod Hydro Berthen yn rhedeg, ond mae hyn yn cael ei gyflawni drwy gydweithio â phartner masnachol. Byddai’n llawer haws pe bai Ynni Ogwen a mudiadau ynni cymunedol eraill yn gallu cynhyrchu a gwerthu eu trydan i bobl leol yn uniongyrchol, ond mae’r farchnad a’r system yn eu hatal rhag gwneud hynny. Dyma un o’r nifer o bethau sydd angen i ni newid.

Pe bai gan bob cymuned rywbeth cyfwerth â Phartneriaeth Ogwen ac Ynni Ogwen, byddai modd i ni fynd ymhell wrth leihau ein hôl-troed carbon fel gwlad, mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac adeiladu gwytnwch yn wyneb ysgytwad prisiau ynni’r dyfodol. Byddai hefyd yn ein galluogi ni i ddod yn fwy anibynnol – yn ein meddyliau a’n hysbryd.

Mae’r bobl nes i gwrdd â nhw ym Methesda’n grŵp bach o ddinasyddion ymroddedig sy’n newid y byd, ac maent yn awyddus i rannu eu gwybodaeth a’u profiad i helpu eraill i wneud yr un peth.

Os ydych chi eisiau sefydlu mudiad cymunedol i gymryd camau ymarferol ar newid hinsawdd a thlodi tanwydd, cysylltwch â ni yn Ynni Cymunedol Cymru.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.