Ges i fy magu mewn dau bentref ar ochr bryniau gogledd Abertawe.
Dw i’n dweud dau bentref, achos yng Nghraig-cefn-parc oedd cartref fy mebyd, ond yn Felindre ges i fy addysg. Mewn ysgol fach gyda thua trideg o blant – Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Addysg gan bentref cyfan sydd wedi fy nghynnal, a goleuo fy ngwerthoedd a fy nghred mewn cymuned hyd heddiw.
Yn haf 2019, ar ôl ymdrech gadarn gan ymgwyrchwyr yn y gymuned, caewyd yr ysgol, a’r mis Ionawr canlynol fe’i gwerthwyd i ddwylo preifat, a chyda hynny newid natur y pentref am byth.
Cau fu tynged Ysgol Cwmgors hefyd, ar ochr arall ucheldir mynyddoedd y Gwair a’r Betws i Felindre a Chraig-cefn-parc, a hynny yn 2015.
Rhyfedd ac emosiynol felly oedd camu drwy riniog Hwb y Gors – safle’r hen ysgol yng Nghwmgors, sydd nawr yn cael ei ddatblygu’n ganolfan carbon isel. Prynwyd y safle gan Awel Aman Tawe drwy ddefnyddio refeniw o’u fferm wynt, rhyw filltir uwchlaw’r safle ar Fynydd Gwrhyd.
Mae’r gwaith dal i fynd rhagddo yno, ond bydd y ganolfan yn cynnwys caffi cymunedol, swyddfeydd gwaith, gweithdai celf, neuadd ar gyfer digwyddiadau, stafelloedd ymolchi hygyrch, a gofod ar gyfer artistiaid preswyl.
Rwy’n adnabod ac yn cydymdeimlo gyda’r galar unigryw sy’n codi o gau ysgol fach mewn pentref. Mae’r lle yn heneiddio dros nos. Does dim sŵn plant yn llenwi’r iard yn ystod amser chwarae. Does dim canolfan i deuluoedd ifanc a’u plant i ymwneud â’r gymuned – lle i bobl ymgynnull ac i gymdeithasu. Mae’n ergyd andwyol i’r iaith fel iaith gymunedol yn ogystal.
Roedd clywed gan Dan, Emily, Bethan a Louise o Awel Aman Tawe am daith y gymuned leol o fod yn ansicr am y datblygiad i fod yn llawn brwdfrydedd am y cynllun yn taro nod, felly. A hefyd y straeon am gyn-ddisgyblion fu’n teimlo rhyw sgytwad wrth wrando ar waith sain gan yr artist Matthew Collier am eu bod yn clywed clychau amser chwarae yn canu unwaith eto.
Roedd gallu cymuned Cwmgors i ddatblygu a chyfranogi yn nyfodol yr adeilad hwn ynghlwm ag ynni cymunedol. Ased y fferm wynt, a’r arian ohoni, galluogodd y cyflymder angenrheidiol oedd ei angen i brynu’r ysgol, a chystadlu’n erbyn y farchnad agored. Nid oedd gan fy nghymuned i yn Felindre ased tebyg, ac mae’r ysgol yno bellach yn nwylo preifat.
Byddai cael rhagor o brosiectau ynni cymunedol ledled Cymru’n galluogi’r datblygiad hwn ar lefel gymunedol wrth gwrs, ond rydym ni yn Ynni Cymunedol Cymru hefyd yn galw am roi’r hawl cyntaf i brynu eiddo cyhoeddus i gymunedau. Byddai hyn yn meddwl rhagor o amser i gymunedau ddatblygu cynlluniau a chodi’r cyfalaf angenrheidiol er mwyn cynnal prosiectau fel Hwb y Gors.
Dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Hwb y Gors ar ôl i’r gwaith adeiladu orffen, a gweld o lygad y ffynnon sut y mae’r gymuned wedi perchnogi’r lle unwaith eto. Hir Oes i Hwb y Gors!