Fel cyd-arweinydd newydd Ynni Cymunedol Cymru, mae llawer o hyd gen i i’w ddysgu. Ond ble gwell i ddechrau na chyda’r arbenigwyr – ein haelodau?
Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi’i greu o’n haelodau. Fe’i sefydlwyd i ddiwallu anghenion sefydliadau cymunedol bychain, oedd yn aml yn wirfoddol ac yn ceisio datblygu neu wedi datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. Mae ein haelodau’n rhannu ymarfer da, syniadau, sgiliau a gwybodaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Gyda’n gilydd, rydym yn ceisio newid y dirwedd wleidyddol fel bod ynni cymunedol adnewyddadwy a chynlluniau wedi’u rhedeg gan y gymuned sy’n arbed ynni mor hawdd â phosib. Rydym eisiau i lywodraethau flaenoriaethu a chefnogi’r cynlluniau hyn. Yn fyr, rydym yn undeb neu’n fudiad ymbarél ar gyfer y rhai sy’n gweithredu yn erbyn yr argyfwng hinsawdd yn ein cymunedau.
Rydym bellach yn cynrhychioli mwy na hanner cant sefydliad gwahanol ac rydym wedi ehangu ein gwaith i faes arbed ac effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth carbon isel, law yn llaw â chynhyrchu ynni.
Mae nifer o’n haelodau’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n cyfrannu at yr ymdrech dorfol sydd ei hangen i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Sefydlwyd Croeso i’n Coedwig fel cwmni i reoli coetir ac i gefnogi gwaith y bartneriaeth ehangach yn Nhreherbert. Maent yn galluogi mynediad, cynnal digwyddiadau, teithiau cerdded, ac yn gwneud defnydd da o’r coed mewn rhan fawr o’r coetir sydd yn eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru ar ben y Rhondda Fawr. Maent yn berchen ar safle’r hen fragdy, y tu ôl i’r orsaf reilffordd yn Nhreherbert ac ymysg pethau eraill, yn ystod yr haf, wedi croesawu cwmni drama lleol i berffomio cynhyrchiad Shakespeare yn y goedwig, am ganol nos. Mae poblogrwydd y cynllun hwn wedi sicrhau y bydd rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yno’r haf nesaf.
Mae ganddynt gynlluniau i ddefnyddio’r trydan o’u prosiect hydro sydd wedi bod yn cynhyrchu trydan glân ers blynyddoedd i bweru rhagor o weithgarwch ar y safle yn y dyfodol, gan gynnwys cyfleoedd hyfforddi.
Ar fy ymweliad, nes i gwrdd â Gwynfor, sy’n cymryd rhan mewn prentisiaeth yno. Mae’n dysgu sgiliau rheoli coetir, sut i ddefnyddio offer gwahanol, adeiladu gan ddefnyddio pren ynghyd â sgiliau garddio – mae hefyd ganddynt ganolfan fwyd ar hen safle gorsaf betrol, ac maent yn bwriadu gwerthu llysiau iachus i bobl leol a busnesau, ynghyd â phlanhigion i arddwyr. Maent yn gobeithio gallu creu cyfle hyfforddi a swydd arall gyda gwasanaeth llogi beiciau trydan, a fydd yn darparu trafnidiaeth garbon-isel a rhad nad yw ar gael ar hyn o bryd. Bydd y beiciau trydan yn cael eu gwefru gan linell breifat o’r tyrbin hydro. Am syniad gwych!
Maent hefyd yn plannu ac yn tyfu coed fel tanwydd gwres ac amrywiaethau o goed ffrwythau ar gyfer perllan gymunedol. Alla i ddim aros i flasu gellygen neu afal o’r berllan honno – mae’r addewid hwnnw’n sicr o fy nenu yn ôl.
Mae Croeso i’n Coedwig eisiau gwenud mwy gyda ynni hydro ac maent wedi comisynu nifer o astudiaethau hyfywedd i weld lle byddai orau i osod y cynlluniau hydro. Maent yn gobeithio bwrw ymlaen â’r gwaith hwn cyn bo hir, ond wedi penderfynu yn ddiweddar y byddant yn defnyddio eu hegni a’u hadnoddau ar ddatblygiadau eraill ar ôl y profiad o osod eu cynllun hydro cyntaf – prosiect wnaeth alw am lawer o amser a gwaith caled.
Mae pawb yn gobeithio bod yr amodau i greu prosiectau ynni bychain o’r math hwn yn haws i grwpiau cymunedol fel Croeso i’n Coedwig er mwyn cynhyrchu rhagor o ynni adnewyddadwy. Rydym hefyd eisiau iddyn nhw allu werthu’r ynni ar raddfa lai i bobl leol. Mae’n heriol i wneud hynny ar hyn o bryd. Tra fod yna rhwystrau, nid ydynt yn rhai na fedrwn ni eu goresgyn. Rhaid i ni sicrhau ei bod mor hawdd â phosibl i grwpiau cymunedol greu prosiectau ynni adnewyddadwy rhatach – os nad nawr, pryd?