CYFARWYDDWYR GWEITHREDOL NEWYDD YCC

Leanne Wood a Ben Ferguson i arwain Ynni Cymunedol Cymru

Published: 06.09.2023 ( a year ago )

Cyhoeddodd y sefydliad heddiw mai cyn arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ac arbennigwr ynni adnewyddadwy Ben Ferguson yw cyfarwyddwyr Ynni Cymunedol Cymru.

Gydag argyfwng ynni yn mynd rhagddi, a’r hinsawdd yn dirwyio o ddydd i ddydd, y ddau hwn fydd yn arwain tîm gwybodus ac ymroddedig Ynni Cymunedol Cymru (YCC) i wireddu’r weledigaeth o system ynni gwyrdd sy’n gosod pobl yn gyntaf.

“Yn syml, nid oes unrhyw beth sy’n fwy pwysig nag ymateb i’r argyfwng hinsawdd.” dywedodd Leanne Wood.

“Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i fod yn gaeth i danwyddau ffosil ac mae sicrhau bod cymunedau’n parhau i reoli’r ynni maent yn ei gynhyrchu yn rhan elfennol o’r datrysiad.

“Mae YCC yn dîm gwych, gydag ethos wedi’u seilio mewn gwerthoedd a digon o uchelgais. Alla i ddim aros i ddechrau arni!”

Dywedodd Ben Ferguson: “Mae ynni cymunedol yn darparu cyfle gwych i ddemocrateiddio’r mynediad at ynni carbon isel gyda phrisiau sefydlog, yn ystod amser lle mae methiannau ein system bresenol yn glir.

Mewn ymateb i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, mae’r syniadau hyn yn ffynnu – ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ystod eang o bobl i ryddhau grym ynni lleol o fewn ein system ynni yng Nghymru”

Mae Leanne a Ben yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiannau arweinydd blaenorol Ynni Cymunedol Cymru, Rob Proctor, a dechrau gweithio ar gyfleoedd newydd i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth gymunedol, ynghyd â chynlluniau trafnidiaeth gwyrdd cymunedol.

Mae hyn yn cynnwys clybiau ceir YCC, a fydd yn galluogi cymunedau i rannu stoc o geir trydan yn lle rhedeg ceir preifat sy’n defnyddio tanwyddau ffosil. Y gobaith yw y bydd y fenter yn lleihau allyriadau carbon ledled Cymru, darparu mwy o drafnidiaeth a chyfleoedd i gysylltu i reini heb geir, a helpu teuluoedd ar incwm is i deithio yn rhad.

Mae ymchwil gan elusen cyd-deithio Collaborative Mobility UK (CoMoUK) yn dangos bod pob car sy’n rhan o glwb ceir yn arwain at gyfartaledd o 18.5 car preifat yn gadael yr heol.

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.