I mi, doedd dim byd mawr yn newydd am adroddiad diweddaraf yr IPCC. Croesewais yr iaith gadarn, y gydnabyddiaeth o ddifrifoldeb y sefyllfa, bod rhai o’r effeithiau a ddaw yn sgil newid hinsawdd yn anorfod, a’r risg os na wnawn ni gymryd camau nawr, mae’n bosib y byddwn yn cyrraedd man lle na fedrwn ni gadw cynhesu o dan 2 radd.
Yr hyn ddaeth o’r adroddiad hwn oedd ysgogi’r teimladau rwyf wedi teimlo ers blynyddoedd bellach. Teimladau o ddicter at ddiffyg gweithredu llywodraethau, corfforaethau a’r cyfryngau. Teimladau o dristwch dwfn a phoen wrth feddwl am ddyfodol fy mhlant, o’r dinistr parhaus i’r byd naturiol, o’r anghyfartaledd anghredadwy a’r dioddefaint sydd yn ein cymdeithas. Blinder ar ôl treulio’r rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn yn ceisio gwneud gwahaniaeth ond yn dal i weld pethau’n gwaethygu. Galar am bopeth sydd wedi’i golli hyd yn oed o fewn fy amser innau ar y byd ac efallai na ddaw yn ôl, fel cynefinoedd, rhywogaethau, sicrwydd yn ein dyfodol, a hyd yn oed yr hyn sydd gen i heddiw rwy’n gwybod y bydd rhaid mi ei roi o’r neilltu.
Nid yw’r teimladau hyn yn rhywbeth anarferol i mi, rwy’n eu teimlo bob tro rwy’n darllen stori newyddion am danau gwyllt, sychder, pobl yn gorfod mudo, pobl ddigartref, coedwigoedd yn cael eu clirio, pobl ifanc yn cael eu gorfodi i streicio a gorymdeithio am eu dyfodol. Byddai rhai pobl yn dweud efallai fy mod i’n dioddef o gorbryder amgylcheddol neu rywbeth tebyg, ac mai fi sydd â’r broblem. Mi faswn i’n awgrymu bod y rhain yn deimladau normal a chyffredin, ac yn ddealladwy wrth ystyried yr hyn rydym yn ei wynebu. Mae Joanna Macey’n dweud:
> This is a dark time, filled with suffering and uncertainty. Like living cells in a larger body, it is natural that we feel the trauma of our world. So don’t be afraid of the anguish you feel, or the anger or fear, because these responses arise from the depth of your caring and the truth of your interconnectedness with all beings. Mae’r adroddiad a’r dadansoddi o’i amgylch yn teimlo’n haniaethol i mi. Gan ystyried yr hyn sydd yn yr adroddiad, os bosib bod angen i ni gydnabod a deall yr effaith mae’r newyddion hyn a’r gyfres o luniau rydym yn eu gweld yn ei gael ar bobl, yn enwedig pobl ifanc. Mae’n ymddangos fel bod diffyg cyfleoedd i ni brosesu maint yr hyn rydym yn ei wynebu, i drafod sut rydym yn teimlo, ei rannu â phobl eraill a chydnabod y sefyllfa rydym yn byw drwyddi.
Rwy’n ddiolchgar iawn i’r bobl sydd yn ceisio ein helpu ni i gyd i brosesu’r sefyllfa. Pobl fel Joanna Macey, wnaeth ysgrifennu ‘Work that Reconnects’ a Jem Bendell, wnaeth gyflwyno’r syniad o ‘Deep Adaptation’ i ni. Rwy’n ddiolchgar i’r artistiaid, cerddorion a llenorion sy’n ein helpu i archwilio’r amseroedd heriol hyn, eu prosesu, a rhannu eu teimladau nhw. Un o’r rheini yw aelod o’n tîm ni, Dyfan Lewis, a ddaeth yn brifardd coronog yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar. Yn ei gasgliad mae’n mynegi rhywfaint o’i bryderon ef ynghylch yr argyfwng hinsawdd drwy ddychmygu ei gymdogaeth, sef Grangetown, Caerdydd, yn cael ei foddi mewn llifogydd. Dyma waith sy’n esiampl o ba mor bwysig ydy hi i ni ganfod dulliau o fynegi ein teimladau am yr amser a’r llefydd rydym yn byw ynddynt a thrafod beth rydym yn ei garu ac yn ei ffeindio’n heriol. Yr hyn sy’n bwysig i ni, a’r hyn fedrwn ni adael fynd ohono.
Un peth sy’n dod â thawelwch meddwl i mi yw gweithio yn y sector ynni cymunedol a mudiadau cymunedol eraill. I fedru gweithio a chysylltu gyda phobl sy’n cydnabod pwysigrwydd yr amser hwn, ac yn deall pa mor bwysig yw hi i ganfod datrysiadau cymunedol i’r heriau rydym yn eu hwynebu, a chael sgyrsiau agored ac onest am yr heriau hyn er mwyn eu hwynebu gyda’n gilydd. Enghraifft wych o hyn ydy prosiect GwyrddNi yng Ngwynedd, a fydd yn cynnal cyfres o gynulliadau dinasyddion i alluogi cymunedau i ddod ynghyd ac i ddatblygu ymateb lleol i’r argyfwng hinsawdd.
Wrth i ni droi at ddyfodol sy’n dod yn fwy fwy ansicr, un peth sy’n teimlo’n hanfodol i mi yw ein bod yn helpu cefnogi cymunedau cryf, cysylltiedig wedi’u grymuso. Mae’r pandemig Covid yn ddiweddar wedi dangos pa mor bwysig yw ein cymdogion, ein cymunedau a’n hamgylchedd lleol i ni. Mae hefyd wedi dangos pa mor bwysig yw asedion cymunedol lleol, gan gynnwys arian o brosiectau ynni cymunedol, adeiladau cymunedol a cherbydau cymunedol yn ystod yr haint. I mi mae’n fwy pwysig nag erioed i adeiladu a datblygu asedion dan ofal y gymuned – boed yn adeiladau, tir, ynni, neu gefnogi’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud gwaith arbennig.
Rwy’n ysgrifennu hyn am fy mod i’n credu mai’r cam cyntaf a phwysicaf y mae angen i ni ei gymryd yw cydnabod a rhannu’r hyn ry’n ni’n ei deimlo, sylweddoli nad ydym ar ben ein hunain ac wedyn dod ynghyd i ymateb i’r her yn y dull mwyaf addas i’n cymunedau. Dydw i ddim yn sicr sut beth fydd yr ymateb i’r darn personol hwn. Nid dyma’r ymateb sy’n ddisgwyliedig i newyddion o’r fath. Os yw’n ysgogi rhywbeth ynddoch chi, a rydych chi am fynegi a rhannu sut yr ydych chi’n teimlo am yr argyfwng hinsawdd, gobeithio y bydd hwn yn ddechrau ar drafodaeth. Gadewch i ni adeiladu gofodau a fydd yn galluogi’r sgyrsiau hyn i ddigwydd. Y mae eu hangen arnom.