Efallai nad yw hyn yn rhywbeth y dylwn i ei gyfaddef yn blaen, ond roedd y syniad o Ynni Cymunedol yn rhywbeth gweddol estron i mi cyn dechrau ar fy swydd fel Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu yma yn Ynni Cymunedol Cymru.
Mae’r misoedd diwethaf hyn wedi bod yn addysg felly, a dw i’n diolch am hynny ar lefel bersonol. Mae ymwneud â’r sector hon a dod i ddeall mwy amdani wedi fy niddori drwy dyddiau’r clo a Covid, ac er nad ydw i wedi gallu cwrdd â’r bobl weithgar sy’n rhan ohoni heblaw drwy sgrîn neu dros y ffôn, mae’r egni a’r ewyllys sydd ar lawr gwlad i wneud gwahaniaeth yn amlwg ac yn ysbrydoli.
Yn aml mae’r meddwl a’r trafod am yr argyfwng hinsawdd yn cael ei wneud ar lefel sy’n anodd i ni ei ddeall fel pobl gyffredin - sôn am hyn a hyn o dunelli o CO2, neu hyn a hyn o fetrau yn newid lefel y môr ac yn y blaen, ac mae ceisio eu dychmygu a’u trosi i’r byd go iawn yn her.
Ond mae’r arwyddion o’n cwmpas yn gyson; yn y tanau erchyll yn Awstralia a Chaliffornia, neu’n agosach atom ni gyda chymunedau’r Rhondda a’r llifogydd enbyd ar ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf. Mae’n beth anesmwyth i feddwl bod yr achosion hyn hefyd yn rhan o’r ‘normal newydd’ ry’n ni wedi dod yn gyfarwydd â hi eleni. Efallai’n fwy na dim, mae ffaith ac effaith y llifogydd hynny wedi datgelu’r tanfuddsoddi sydd wedi bod yn rhan o’n hardaloedd ôl-ddiwydiannol ers cenhedlaeth gyfan.
Mae rhyw eironi i’r peth, gan mai dyma’r cymoedd fu’n pweru ar un tro y diwydiannau trwm sydd mor niweidiol i’n hamgylchedd. Ond rhaid i ni wylio rhag gosod y bai ar ysgwyddau’r cymunedau hyn a’r bobl gyffredin sy’n byw ynddyn nhw. Roedd eu tiroedd a’u cymunedau dan law meistri oedd yn bell yn ddaearyddol ac yn syniadaethol. Dyma fy nghefndir innau wedi’r cyfan, mae Craig-cefn-parc, sef ardal fy magwraeth, yn bentref a dyfodd o amgylch pyllau glo. Fe ysgrifennodd Gwilym Herber, cymydog i mi’n blentyn a chyn-löwr a ddysgodd ei hun i gynganeddu yn ei henaint, am ffatri’r Mond yn Clydach gerllaw:
‘Mond yw’r lle sy’n mynd â’r llog / O Glydach i’r goludog’
O siarad gydag aelodau amrywiol Ynni Cymunedol Cymru, mae’n amlwg fod hon yn stori ry’n ni’n ei rhannu. Yng Nghymru, rydym yn fwy nag ymwybodol o waddol y diwydiannau trwm, o bwysigrwydd ynni, ac o fympwyon corfforaethau a chyfalafiaeth fawr. Ni ddaeth dim yn lle’r hen ddiwydiannau ar ôl i chwareli a phyllau glo a ffatrïoedd gau, ac mae ein cymunedau ni’n brwydro o hyd am eu hurddas a’u hawliau.
Mae chwyldro ynni arall ar y gweill fodd bynnag. Wrth i ni symud yn agosach at gymdeithas ddigarbon, fe fydd pwysigrwydd ynni adnewyddadwy a pherthynas pobl gyffredin ag ef yn datblygu ac yn aeddfedu. Rhaid i ni sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd y tro hwn. Rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau yn cadw perchnogaeth o’u hadnoddau lleol, a’r buddiannau’n cael eu rhannu rhwng pawb. Dyma’r unig fodd o gadw buddiannau cyfalaf yn ein cymunedau a’u datblygu.
Wrth gwrs, mae hanes gennym ni yng Nghymru o weithio gyda’n gilydd a ffurfio cwmnïau cydweithredol i gadw elw ac arian mewn cymuned. Dyma wlad sefydliadau’r glöwyr a Robert Owen wedi’r cyfan. Mae nifer o’n haelodau ni yn Ynni Cymunedol Cymru wedi bod ar flaen y gad wrth wreiddio ynni yn ein cymunedau. Peth Cymreig yw ynni, a pheth Cymreig yw’r ysbryd o gydweithio hefyd. Dylwn ni gofio hyn wrth i’r orchwyl o frwydro newid hinsawdd ymddangos yn ormod.
Mae nifer o ddulliau i ni ymgymryd â’r chwyldro hon. Tanysgrifiwch i gylchlythyr CyfranNi, er mwyn clywed am gyfleoedd i fuddsoddi yn y prosiectau amrywiol yng Nghymru sy’n gweithio ym maes ynni. Meddyliwch a oes prosiect ynni cymunedol yn bosib lle’r ydych chi’n byw, a chysylltwch gyda ni er mwyn gweld a yw’n bosib i’w ddatblygu.
Yn bennaf, yr hyn sydd wedi dod o fy amser yn gweithio gyda Ynni Cymunedol Cymru yw nad oes rhaid i ni aros i’r newid nesaf ym myd ynni ddigwydd i ni, ac i ninnau oddef y peth. Gallwn ni fel Cymry gymryd rhan ynddo, a’i arwain.