Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio
Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.
Blog gan Leanne Wood a Ben Ferguson, Cyd-gyfarwyddwyr Gweithredol.
Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi bod yn gweithio gydag RWE Renewables ers 2017, i sicrhau datblygiad arloesol i Gymru – cyfran gymunedol mewn fferm wynt ar raddfa fawr, wedi’i datblygu’n fasnachol.
Mae’r prosiect nawr mewn proses ymgynghori ffurfiol ers 26 Tachwedd 2024, ac ar agor i lythyrau o gefnogaeth gan y cyhoedd hyd at 14 Ionawr 2025.
Cydberchnogaeth
Yn 2020, gosododd Llywodraeth Cymru ddisgwyliad polisi fod “pob prosiect ynni newydd yng Nghymru ag elfen o berchnogaeth leol o leiaf o 2020 ymlaen”.
Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir i ynni yng Nghymru – cyfle i gymunedau yng Nghymru fod yn berchen ar ased ynni hyfyw, a’r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eang mae hynny’n ei ddarparu.
Hyd yn hyn, mae cydberchnogaeth fel cysyniad yn cael ei brofi. Caiff hyn ei ddangos gan y nifer o ddatblygwyr preifat sydd heb drafferthu i gysylltu â ni na chymunedau lleol ar y mater hwn. RWE yw un o’r ychydig ddatblygwyr rydym ni yn eu hystyried i fod yn gweithredu ag ewyllys da.
Fel enghraifft o hyn, rydym ond wedi gweld 3 phrosiect yn cyrraedd trothwy Ynni Cymunedol Cymru ar gyfer cydberchnogaeth o safon – hynny yw, dogfen gyfreithiol wedi’i harwyddo ar y cyd ag endid cymunedol. Mae hyn allan o 32 sydd wedi’u cofrestru gyda Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru ers cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar bolisi cydberchnogaeth yn 2020.
Arwain y Ffordd:
Fferm Wynt a Chysylltiad Grid Coed Alwen yw’r cyntaf o’r rhain – cynllun arloesol ar gyfer y model cydberchnogaeth yng Nghymru. Fe wnaeth gwaith ar y cytundeb cydberchnogaeth ddechrau yn 2017, 2 flynedd cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r disgwyliad polisi, sy’n amlinelliad cryf o’r parodrwydd ar ran y datblygwr i wneud yn iawn i’r gymuned leol.
Mae’r model yn galluogi cymuned i ennill 15% o brosiect RWE fel buddsoddiad ecwiti. Mae’r cytundeb hwn wedi cael ei arwyddo gan Ynni Cymunedol Cymru a RWE mewn Datganiad o Ddealltwriaeth.
Mae’r ddogfen hefyd wedi ffurfio sylfaen i’r cydweithio rhwng RWE ac Ynni Cymunedol Cymru, gan amlinellu’r arian a’r gefnogaeth y buasai YCC yn ei dderbyn i gymryd rhan mewn cyfarfodydd cyhoeddus, cynnal sesiynau annibynnol gyda’r gymuned leol, a bod yn bresennol ar gyfer cyfarfodydd technegol cyson ynghylch y project.
Fe wnaeth y ddogfen hefyd alluogi Ynni Cymunedol Cymru i sefydlu Ynni Hiraethog, Cymdeithas Budd Cymunedol, fel perchennog ar gyfran gymunedol y prosiect. Bydd pobl leol yn gallu prynu cyfranddaliad yn Ynni Hiraethog ar sylfaen ‘un cyfranddalwr, un pleidlais’, gan ennill llog teg ar eu cyfranddaliadau gyda’r sicrwydd bod unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer buddion cymunedol yn lleol. Mae hyn yn ychwanegol ac ar wahân i’r pecyn buddion cymunedol sy’n cael ei gynnig gan RWE.
Rydym yn gweld o’n haelodau ni beth mae perchen ar ased ynni’n ei olygu – adfywio cymunedol, cefnogaeth gymunedol i brosiectau ynni, a rhagor o fusnesau cymunedol yn creu swyddi da, lleol. Bydd Ynni Hiraethog mewn sefyllfa i allu darparu’r math o broisectau sy’n cael eu cynnig gan aelodau YCC ar hyn o bryd, yn sgil eu perchnogaeth dros ran o’r prosiect hwn.
Nid oes amheuaeth fod y prosiect yn gam sylweddol tuag at berchnogaeth leol ac ymreolaeth. Ein cenhadaeth yn Ynni Cymunedol Cymru yw gweld system ynni gwyrdd, wedi’i arwain gan y gymuned, ac mae ein partneriaeth gydag RWE yn cefnogi’r uchelgais hwn.
Cefnogi’r Cais:
Yn nhermau ymarfer da ar gydberchnogaeth hyd yn hyn, mae’r prosiect yn cyrraedd yr hyn rydym yn ei ystyried fel safon aur, ac rydym yn ei gymeradwyo. Mae angen i’r penderfyniad gael ei wneud gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, sy’n tafoli’r dystiolaeth sydd wedi’i chyflwyno am fuddion y prosiect, o gymharu â’r effeithiau eraill. Nid yw perchnogaeth gymunedol yn ystyriaeth sylweddol yn nhrefn cynllunio yn ôl y gyfraith. Rydym o’r farn y dylai fod, ac rydym o’r farn ei fod hi’n bwysig bod cynifer o leisiau ag sy’n bosib yn gadael i’r cynllunwyr i wybod fod cael cyfran gymunedol o bwys.
Mae’r ffenest ar gyfer anfon llythyrau o gefnogaeth ar agor nawr. Rydym yn annog pawb sy’n poeni am adeiladu asedau cymunedol yng Nghymru a system ynni decach i ddangos eu cefnogaeth i’r prosiect hwn, gan osod cynsail o fewn y system gynllunio ar gyfer cyd-berchnogaeth.
Ceir canllaw ar ysgrifennu llythyr o gefnogaeth yma.
Os hoffech chi gefnogi ynni cymunedol ymhellach, tanysgrifich i’n rhwydwaith RhanNi, lle fyddwch chi’n cael eich diweddaru ar y camau y gallwch chi eu cymryd.