Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi bod yn gweithio gyda RWE Renewables ers 2017 i sicrhau cam arloesol i Gymru – cyfran gymunedol mewn fferm wynt ar raddfa fawr sydd wedi cael ei datblygu’n fasnachol.
Mae’r prosiect bellach mewn proses ymgynghori ffurfiol ers 26 Tachwedd 2024, ac ar agor i lythyrau o gefnogaeth o’r cyhoedd hyd at 14 Ionawr 2025.
Rydym yn gofyn i gefnogwyr ynni cymunedol anfon llythyr o gefnogaeth i’r arolygiaeth gynllunio. E-bostiwch PEDW.Infrastructure@gov.wales gan ddefnyddio’r teitl Alwen Forest Wind Farm and Grid Connection | DNS/3214855
//
Yn eich geiriau eich hunain, defnyddiwch y pwyntiau isod i lunio llythyr yn cefnogi Fferm Wynt a Chysylltiad Grid Coed Alwen.
PWYSIG
- Mae arbedion carbon yn ystyriaeth sylweddol yn ôl cyfraith cynllunio. Bydd eich llythyr yn cael ei ystyried os ydych chi’n cyfeirio at arbedion carbon y prosiect, a’i fod yn cyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio. Rydym yn eich cynghori’n gryf i gyfeirio at yr arbedion i allyriadau CO2 disgwyliedig o dros 2,640,891 tunnell o CO2 wrth ysgrifennu eich llythyr.
PWYNTIAU ERAILL
- Mae hwn yn brosiect arloesol i Gymru o ran cydberchnogaeth – fe wnaeth RWE ddechrau cyrraedd nod y polisi cydberchnogaeth hyd yn oed cyn iddo gael ei gyhoeddi yn 2020.
- Mae’r model cydberchnogaeth yn fodel sy’n gwella cydraddoldeb.
- Mae’r cyfle i berchen ar hyd at 15% o’r prosiect yn gam sylweddol tuag at berchnogaeth leol ac ymreolaeth, sef calon gwaith Ynni Cymunedol Cymru.
- Mae hygrededd gan y cynnig cydberchnogaeth:
- Mae yna Ddatganiad o Ddealltwriaeth wedi’i arwyddo.
- Darparwyd arian i YCC gan y datblygwr i gymryd rhan ym mhob un o’r cyfarfodydd cyhoeddus, ac i redeg sesiynau annibynol cyhoeddus.
- Mae corff buddsoddi, Ynni Hiraethog, wedi cael ei sefydlu. Bydd pobl leol yn gallu prynu cyfran yn Ynni Hiraethog ar y sylfaen ‘un cyfranddalwr, un pledlais’ ac ennill llog teg ar eu cyfranddaliadau, gyda’r sicrwydd bod unrhyw arian dros ben yn mynd yn uniongyrchol at fuddion cymunedol yn lleol.
- Mae hyn yn ychwanegol ac ar wahân i’r pecyn budd cymunedol sy’n cael ei gynnig gan RWE.
- Mae cytundeb cydweithio bron â chael ei negydu’n derfynol.
- Fe wnaeth YCC gymryd rhan mewn ysgrifennu’r adroddiad buddion cydweithio.
- Mae’n fodel busnes i ynni cymunedol mewn marchnad sy’n brysur dod yn anoddach ar gyfer cynhyrchiant ynni ar raddfa lai.
- Bydd yn rhan o adeiladu asedau cymunedol yng Nghymru.
- Mae’n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gydberchnogaeth.
Gall eich llythyr fod unrhyw hyd yr hoffech chi, a gallwch dynnu oddi ar y pwyntiau uchod, neu ychwanegu atynt. Cofiwch gyfeirio at yr arbedion carbon, ynghyd â’ch cefnogaeth ar gyfer yr elfen o gydberchnogaeth.
Diolch am eich cefnogaeth.