Ynni Cymunedol Cymru yn Croesawu Deddfwriaeth Newydd

Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi croesawu cyhoeddi Bil Annibyniaeth Ynni newydd Llywodraeth y DU.

Published: 06.11.2026 ( 2 days ago )

Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi croesawu cyhoeddi Bil Annibyniaeth Ynni newydd Llywodraeth y DU.

Mae'r mesurau yn y Bil yn cynnwys gwneud buddion cymunedol yn ofyniad ar gyfer prosiectau gwynt ar y tir a solar. Mae hefyd yn cynyddu'r isafswm ar gyfer rhan berchnogaeth (rhwng cymunedau a datblygwyr preifat) o 5% i gyfran gymunedol o 20%, darpariaeth a gafodd ei chynnwys yn Neddf Seilwaith 2015. Yn ogystal, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ynni mawr ymgysylltu â sefydliadau ynni cymunedol a chynnig gwasanaethau penodol iddynt. Gallai hyn greu'r amodau ar gyfer cyflenwi ynni lleol.

Dywedodd cynrychiolwyr y sector ynni cymunedol, Leanne Wood a Ben Ferguson:

“Mae masnachu ynni lleol yn cynnig y potensial i ddatgloi gallu mwy o gymunedau i greu busnesau ynni hyfyw. Byddai masnachu ynni lleol yn galluogi pobl i ffurfio'r hyn rydym yn ei alw'n gymunedau ynni. Dyma lle mae pobl mewn ardal yn dod ynghyd i gynhyrchu cymaint o ynni â phosibl ar gyfer defnydd lleol. Gall cymunedau ynni helpu i arbed ynni a lleihau costau i ddefnyddwyr, cryfhau gwytnwch cymunedol a chefnogi cydbwyso'r grid.

Mae'r trawsnewid ynni yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddemocrateiddio rhan hanfodol o'r economi sylfaenol, lledaenu perchnogaeth yn llawer ehangach a chadw mwy o werth economaidd yn cylchredeg o fewn cymunedau lleol.

Ond mae dadl o ran systemau hefyd. Mae gan system ynni fwy datganoledig - sy'n cael ei harwain gan gymunedau - y potensial i newid sut rydym yn defnyddio ynni: trwy gyfateb cynhyrchiant a galw lleol, galluogi hyblygrwydd, storio a defnydd craffach, lleihau'r pwysau ar rwydweithiau ac o bosibl osgoi rhai o'r costau sydd fel arall yn cael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr drwy filiau a thaliadau sefydlog.

Rydym yn croesawu'r mesurau yn y Bil hwn sy'n gwneud buddion cymunedol yn ofynnol ac sy'n cynyddu'r gyfran leiaf i gymunedau mewn prosiectau lle mae perchnogaeth yn cael ei rhannu â datblygwyr preifat. Y gyfradd o £5,000 y megawat yw'r gyfradd a gytunwyd gan y diwydiant ers 2012. Ein barn ni yw y dylai'r gyfradd hon weld cynnydd o leiaf yn unol â chwyddiant, os nad mwy.

Rydym yn arbennig o groesawu'r darpariaethau a allai ein helpu i ddatblygu cymunedau ynni, yn debyg i'r rhai sydd eisoes yn bodoli mewn gwledydd eraill yn Ewrop.

Bydd Ynni Cymunedol Cymru yn gweithio gyda'n partneriaid ac Aelodau Seneddol cefnogol ar y manylion sy'n sail i'r Bil hwn wrth iddo fynd drwy'r broses ddeddfwriaethol i ddod yn gyfraith."

Pagination

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Os hoffech chi gael yr holl newyddion a gweithgareddau diweddaraf gan Ynni Cymunedol Cymru, cofrestrwch isod. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.