Mae ymgais i greu clybiau ceir trydanol ledled Cymru wedi cael cefnogaeth ariannol gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r prosiect, a fydd yn sefydlu cynlluniau mewn nifer o gymunedau, yn gweld budd o bron i £500,000.
Bydd saith clwb ceir o dan berchnogaeth gymunedol yn cael ei sefydlu. Y gobaith yw y bydd y cynllun yn lleihau allyriadau carbon yng Nghymru, darparu trafnidiaeth a chyfleoedd i bobl heb geir, a helpu teuluoedd ar gyflog is.
Bydd clybiau’n cael eu sefydlu yn Aberhonddu, Crughywel, Cwm Aman, Cligeti, Pennard, Pen Llŷn, Penygroes a Llanfyrnach. Bydd y clybiau hyn yn cysylltu gyda chlybiau ceir sy’n bodoli eisioes i greu rhwydwaith Gymru gyfan.
Dywedodd Ynni Cymunedol Cymru, sy’n arwain y prosiect, fod hyn yn gyfle i “greu datrysiadau cymunedol i dorri allyriadau carbon a chymryd rhan yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.”
Dywedodd y Loteri Genedlaethol eu bod yn ‘falch’ o gefnogi’r prosiect, a’i ddisgrifio fel dull ‘pwerus o gyrraedd cymunedau yng Nghymru’
Croesawodd yr elusen rhannu trafnidiaeth Collaborative Mobility UK (CoMoUK) sydd am werthuso’r prosiect, gan ddweud y bydd yn “creu cyfleoedd trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig”.
Mae’r sefydliadau eraill sy’n rhan o’r prosiect yn cynnwys The Green Valleys, Ynni Cymunedol Sir Benfro, Ynni Sir Gâr, Datblygiadau Egni Gwledig, Awel Aman Tawe, Cwm Arian Renewables, CTA Cymru a TrydaNi.
Mae nifer y bobl sy’n ymuno â chlybiau ceir yn cynyddu, ac wedi arwain at bron i 100,000 o geir preifat yn cael eu tynnu oddi ar yr heol, yn ôl ymchwil gan CoMoUK. Yn ôl yr arolwg mae pob un clwb ceir yn arwain at gyfartaledd o 18.5 car preifat yn llai ar yr heol.